Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ei safle uchaf erioed mewn unrhyw dabl cynghrair yn y DU ar ôl codi o safle 31 i 24 yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2021.

Mae'r safle diweddaraf hwn yn gosod Prifysgol Abertawe ymhlith 25 o sefydliadau gorau'r DU ac fel y brifysgol orau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae Canllaw Prifysgolion y Guardian wedi sefydlu ei hun fel tabl cynghrair allweddol ar gyfer prifysgolion y DU ac mae'n un o'r prif ffynonellau  i bobl ledled y byd wrth benderfynu pa brifysgol sy'n iawn iddyn nhw.

Mae'r Canllaw diweddaraf yn cynnwys tablau cynghrair sy'n rhestru prifysgolion ar nifer o feini prawf, gan gynnwys sgoriau boddhad myfyrwyr yn seiliedig ar gyrsiau, addysgu ac adborth, yn ogystal â chyfradd y myfyrwyr sy'n rhoi'r gorau iddi a chyfran y graddedigion mewn cyflogaeth ar lefel broffesiynol neu sy’n astudio ymhellach ar ôl graddio. Mae hefyd yn cynnwys tablau cynghrair sy'n rhestru prifysgolion yn ôl maes pwnc.

Am foddhad cwrs mae Abertawe yn y 6ed safle yn y DU. Mae’r sgôr yn seiliedig ar yr adborth a roddir gan fyfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.

Mae cyfran y myfyrwyr sydd mewn swydd neu'n astudio ymhellach ymhen 15 mis ar ôl graddio yn gosod Abertawe yn gydradd 23ain.

Mae'r meini prawf gwariant fesul myfyriwr, sy'n archwilio'r arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau a chyfleusterau academaidd fesul myfyriwr, yn gosod Abertawe yn safle 35 — 15 safle’n uwch na Chanllaw'r llynedd.

Ar lefel pwnc, mae bron i 50% o bynciau yn Abertawe wedi gweld gwelliant mewn safle, gyda chwe phwnc yn y 10 uchaf, a saith yn yr 20 uchaf.

Meddai’r Athro Paul Boyle, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Yn yr amseroedd heriol hyn, mae’n hyfryd gweld gwaith caled ac ymrwymiad staff ar draws y brifysgol yn cael eu cydnabod yn y Canllaw diweddaraf hwn. Er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol, rydym wedi llwyddo i ddod ymhlith 25 o sefydliadau gorau'r DU ac wedi parhau i fod ar y brig yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

“Mae’r canlyniadau ar gyfer boddhad myfyrwyr, rhagolygon gyrfa a gwariant fesul myfyriwr yn profi bod ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Maent yn adlewyrchu ymrwymiad Abertawe i ddarparu profiad gwych i fyfyrwyr, wrth sicrhau bod ein graddedigion wedi’u harfogi â’r hyn sydd ei angen arnynt i fynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llwyddiannus a boddhaus."

Rhannu'r stori