Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu rhaglen gofal iechyd bwrpasol sy'n seiliedig ar werth (VBHC) mewn cydweithrediad â'i phartner strategol Sprink Ltd, fel rhan o'i chynnig Addysg Weithredol.
Cynllunnir y rhaglen ar gyfer uwch-arweinwyr yn sectorau'r gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol a chyflwynir yr un wreiddiol ar ffurf rithwir i 50 o arweinwyr byd-eang o Pfizer, un o gwmnïau cynhyrchion fferyllol mwyaf blaenllaw'r byd sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil, gan ddechrau ar 16 Medi.
Wrth i systemau iechyd a gofal yn fyd-eang gael eu herio'n gynyddol i greu canlyniadau gwell ar gyfer pobl, a hynny am y pris rhataf posib, nod y rhaglen hon yw trawsnewid y ffordd y mae'r systemau hynny'n gweithredu ar hyn o bryd.
Cyflwynir y rhaglen gan arweinwyr systemau gofal iechyd, sefydliadau gwyddorau bywyd, y llywodraeth a phrifysgolion. Bydd yn defnyddio canfyddiadau diweddaraf ymchwil academaidd er mwyn sicrhau dealltwriaeth gadarn o'r broses o fabwysiadu VBHC yn llwyddiannus.
Meddai Dr Tom Kelley, Prif Swyddog Gweithredol Sprink a Chyfarwyddwr Cwrs Dros Dro: “Mae VBHC yn uno ein systemau iechyd a gofal o blaid un nod – cyflawni'r canlyniadau gorau sy'n bwysig i bobl am y pris rhataf posib. Dyma ddymuniad cleifion. Dyma pam rydym yn weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd. Dyma'r unig ffordd y gallwn sicrhau systemau iechyd a gofal hirdymor o safon. Felly, mae angen i ni i gyd, o lywodraethau i ddarparwyr i ddiwydiant, gydweithio i roi VBHC ar waith yn ein systemau iechyd ledled y byd.
“Rwy'n edrych ymlaen yn benodol at weithio gyda Phrifysgol Abertawe oherwydd ei lleoliad yng Nghymru. Mae Cymru wedi ennill bri rhyngwladol am fod wrth wraidd y broses o fabwysiadu VBHC, felly mae'n gwneud synnwyr i ddatblygu a chyflwyno addysg VBHC o'r radd flaenaf mewn prifysgol flaenllaw yng Nghymru.
Meddai Hamish Laing, Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Gwell ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r ffaith bod ein carfan gyntaf o gynrychiolwyr yn cynnwys arweinwyr byd-eang o un o gwmnïau cynhyrchion fferyllol mwyaf y byd yn dangos bod ymagwedd sy'n seiliedig ar werth bellach yn hanfodol i gynaliadwyedd sefydliadau syn gweithredu yn sectorau'r gwyddorau bywyd ac iechyd.
“Dyma'r ffordd y mae angen i systemau weithredu yn y dyfodol ac mae'n hanfodol bod sefydliadau'n mabwysiadu ymagweddau sy'n seiliedig ar werth cyn gynted â phosib, er mwyn cynnig y manteision mwyaf o safbwynt cleifion ac elw.
Meddai Ben Osborn, Rheolwr Pfizer yn y DU: “Mae rhaglen gofal iechyd Prifysgol Abertawe sy'n seiliedig ar werth yn amserol iawn. Mae'n cydnabod bod cyfuniad o ddarganfyddiadau gwyddonol, straen ar gyllidebau gofal iechyd a disgwyliadau cynyddol cleifion yn trawsnewid y ffordd y caiff gofal iechyd ei gyflwyno a'i fesur a'r ffordd y telir amdano.
“Gall cyflymder y newid hwn amrywio'n sylweddol, fodd bynnag. Bydd y rhaglen VBHC hon yn rhoi cyfle i arweinwyr o systemau iechyd a diwydiant gytuno ar farn gyffredin am ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth a'i sicrhau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol ag y bo modd.
Mae'r rhaglen gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o gynnig Addysg Weithredol yr Ysgol Reolaeth. Dyma'r rhaglen gyntaf o blith llawer o raglenni arbenigol, gweithredol a gyflwynir gan yr Ysgol er mwyn creu sefydliadau ac economïau cynaliadwy a ffyniannus mewn nifer o sectorau.
Esboniodd yr Athro Katrina Pritchard, Cyd-ddeon a Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, gynnig Addysg Weithredol yr Ysgol Reolaeth fel a ganlyn: “Wrth gynnig Addysg Weithredol i ddysgwyr proffesiynol, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein hadnoddau a'n hymchwil academaidd o'r radd flaenaf mewn sectorau gwahanol. Rwy'n falch bod y rhaglen VBHC gyntaf, ddwys yn cael ei chyflwyno i'r sefydliad cynhyrchion fferyllol byd-eang blaenllaw Pfizer. Mae hyn yn dangos y galw am ddysgu parhaus wrth i'r byd addasu ac i economïau newid, yn fwy nawr nag erioed.
“Mae ein cyrsiau arbenigol o safon wedi'u cynllunio i helpu arweinwyr i ddatblygu sefydliadau ac economïau cynaliadwy a ffyniannus. Yn ogystal â VBHC, rydym yn cynnig rhaglenni arweinyddiaeth ehangach megis MBA a DBA ymysg llawer o gynigion eraill. Mae'r wybodaeth helaeth am ddiwydiant a'r byd academaidd yn yr Ysgol yn ein rhoi mewn sefyllfa fanteisiol i gyflwyno rhaglenni sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, wedi'u hysgogi gan ddulliau gweithredu a'u cefnogi gan ddamcaniaethau.”
Mae'r ail raglen VBHC rithwir bellach ar agor i gynrychiolwyr o sectorau'r gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol ac fe'i cynhelir o 3 Mawrth 2021. Cliciwch YMA i gael mwy o wybodaeth a chofrestru i gadw lle.