Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Ymchwil newydd yn datgelu sbardunau amgylcheddol cymhlethdod ecolegol mewn cymunedau rhynglanwol morol
Mae amgylchiadau amgylcheddol megis tymheredd arwyneb môr ac achosion o bistyllio dŵr oer yn gyfrifol am strwythur rhwydweithiau rhyngweithio mewn cymunedau rhynglanwol morol o ganlyniad i'w heffaith ar gyfoeth rhywogaethau, yn ôl ymchwil newydd.
Mewn papur a gyhoeddwyd gan Ecology, bu Dr Miguel Lurgi o Brifysgol Abertawe'n gweithio gydag ymchwilwyr o'r orsaf Ymchwil Forol Arfordirol yn Chile, a gasglodd ddata am gyfansoddiad rhywogaethau a thri math o ryngweithio ecolegol rhwng rhywogaethau mewn cymunedau rhynglanwol creigiog ar draws traethlin 970km ar arfordir Môr Tawel De America. Gwnaethant ddadansoddi sbardunau amgylcheddol strwythur rhwydweithiau rhyngweithio ecolegol rhwng rhywogaethau mewn cymunedau rhynglanwol morol.
Cyfrifodd aelodau'r tîm gyfres o elfennau ar draws rhwydweithiau o fathau rhyngweithio ecolegol gwahanol: troffig, cystadleuol a chadarnhaol (e.e. cydymddibynnol). Gan ddefnyddio'r elfennau hyn, aethant ati wedyn i ymchwilio i sbardunau amgylcheddol posib y rhwydwaith amlamrywedd hwn. Roedd y rhain yn cynnwys amrywiad o ran tymheredd arwyneb môr a phistyllio arfordirol, sef prif sbardunau cynhyrchedd mewn dyfroedd ger glannau.
Mae eu canlyniadau'n awgrymu bod nifer y rhywogaethau yn y gymuned yn effeithio ar elfennau strwythurol rhwydweithiau ecolegol amryfal a bod ffactorau anfiotig sy'n dylanwadu ar gynhyrchedd a rhagweladwyedd amgylcheddol, megis achosion o bistyllio dŵr oer a chyfartaledd hirdymor tymheredd arwyneb môr, yn eu modylu.
Mae'r effeithiau hyn yn gryfach ar ryngweithiadau ecolegol negyddol nad ydynt yn rhai troffig, megis cystadleuaeth am le ymysg organebau, nag ar y perthnasoedd ecolegol rhwng cwsmeriaid a'u hadnoddau.
Mae'r darganfyddiadau hyn yn amlygu'r angen am ddealltwriaeth fwy cyflawn o amrywioldeb daearyddol rhyngweithiadau ecolegol a'r rhwydweithiau y maent yn eu ffurfio os yw ymchwilwyr am ragweld effeithiau posib newidiadau amgylcheddol ar gymunedau ecolegol.
Meddai Dr Miguel Lurgi, darlithydd yn y biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe ac un o awduron y gwaith ymchwil: “Mae'n destun cyffro ein bod wedi cael darlun cyflawn o sbardunau amgylcheddol trefn rhwydweithiau ecolegol amryfal mewn cymunedau rhynglanwol morol, a hynny am y tro cyntaf. Ar ben hynny, mae ein gwaith yn tynnu sylw at gyfeirioledd y newidiadau hyn.
“Mae'r wybodaeth hon yn werthfawr iawn er mwyn rhagweld effeithiau newid amgylcheddol ar drefn cymunedau naturiol.”