Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Eitemau o'r Ganolfan Eifftaidd

Mae cyllid gwerth £1,100 wedi cael ei ddyfarnu ar y cyd i arbenigwr ar hanes yr henfyd a Chanolfan Eifftaidd Abertawe er mwyn datblygu arddangosfa newydd ar yr Aifft a'i chymdogion, a ddefnyddir ar gyfer rhaglen addysg y Ganolfan ar faterion megis hunaniaeth, hiliaeth a senoffobia yn yr henfyd.

Dyma un o ddau ddyfarniad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Clasurol, gyda'r nod o gefnogi gwaith i ennyn diddordeb y cyhoedd yn yr henfyd.

Cyflwynwyd y cais llwyddiannus gan Dr Ersin Hussein o'r Adran Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg, mewn partneriaeth â Rheolwr Mynediad at Gasgliadau'r Ganolfan Eifftaidd, Dr Ken Griffin.

Bydd y cyllid yn helpu i ddatblygu arddangosfa newydd yn amgueddfa'r Ganolfan Eifftaidd, sef Yr Aifft a'i Chymdogion, a fydd yn cynnwys gwrthrychau o'r Aifft, Gwlad Groeg, Rhufain, Cyprus, Mesopotamia a Nubia.

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Sefydliad Astudiaethau Clasurol ddigwyddiad dyfarnu ar-lein, lle rhannodd Dr Hussein a Dr Griffin fwy o fanylion am eu prosiectau.

Meddai Dr Ersin Hussein, arbenigwr ar Ynys Cyprus Rufeinig yn benodol:

“Bydd arddangosfa Yr Aifft a'i Chymdogion yn sbardun i ennyn diddordeb myfyrwyr a'r cyhoedd mewn nifer o bynciau sy'n ganolog i'r byd cyfoes, megis hiliaeth, amrywiaeth ddiwylliannol, hunangyflwyno, a ffurfio hunaniaeth. Mae'r henfyd yn llawn deunydd i annog trafodaethau ystyrlon am y materion hyn.

Mae sawl darlithydd yn yr adran Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg eisoes yn cynnig modiwlau sy'n trafod y themâu hyn yn yr henfyd.

Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r ychydig leoliadau yn y DU sy'n cynnig modiwlau arbenigol ar yr Aifft, Gwlad Groeg, Rhufain, Cyprus, Nubia a'r hen Ddwyrain Agos. Roeddem am i'r arddangosfa ddod â'r gwaith ymchwil rydym yn ei wneud yn yr amgueddfa ynghyd ar gyfer ein hymwelwyr, o blant ysgol i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn ogystal â'n myfyrwyr." 

Ychwanegodd Dr Ken Griffin o'r Ganolfan Eifftaidd:

“Mae ein rhaglen addysgol wrth wraidd gwaith y Ganolfan. Bydd y cyllid yn ein galluogi i ddatblygu'r rhaglen i gynnwys pynciau megis hunaniaeth, amrywiaeth, hiliaeth a senoffobia yn yr henfyd. Wrth wneud hynny, gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaethau am faterion cyfredol.

Yn unol â nod craidd yr amgueddfa o ehangu cyfranogiad, ymgynghorwyd â grwpiau ac unigolion amrywiol drwy gydol y broses gynllunio, felly dyma brosiect sydd wedi'i gyd-greu.”

Mwy o wybodaeth am y Ganolfan Eifftaidd 

Delweddau digidol o anifeiliaid mymïaidd – mymïod y Ganolfan Eifftaidd ar wefan newyddion y BBC 

Rhannu'r stori