Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mi fydd casgliad digidol o lawysgrifau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r bardd a'r awdur Dylan Thomas ar gael ar-lein cyn hir, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.
Bydd llawysgrifau, gohebiaeth, llyfrau nodiadau, lluniadau, cofnodion ariannol, ffotograffau, proflenni, a sgriptiau darlledu'r awdur o Abertawe ar gael ledled y byd trwy gydweithrediad rhwng Canolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Tecsas, Prifysgol Abertawe, ac Ymddiriedolaeth Dylan Thomas. Mi fydd rhai o ddarnau enwocaf Dylan Thomas, y gerdd Do Not Go Gentle Into That Good Night a'r ddrama Dan y Wenallt, ymhlith y gwaith a fydd yn cael ei ddigideiddio.
“Mae’r fenter hon yn addo dyfnhau ein dealltwriaeth o broses greadigol Dylan Thomas ac arwain at fewnwelediadau newydd i’w farddoniaeth ac ysgrifau eraill,” meddai Stephen Enniss, Cyfarwyddwr Betty Brumbalow yng Nghanolfan Harry Ransom. “Rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad hwn â Phrifysgol Abertawe ac yn ddiolchgar hefyd i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas sydd wedi ei gwneud yn bosibl i ni rannu’r casgliad â’i ddarllenwyr ledled y byd.”
Mae casgliadau sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas ym meddiant sawl sefydliad ledled y byd, ac mae gan Ganolfan Ransom y casgliad mwyaf, sy’n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, a ffotograffau sy’n olrhain gwreiddiau ei weithiau mawr a datblygiad awdur ifanc. Mae’r prosiect hwn yn cynnwys digideiddio popeth yn llawysgrifen Dylan Thomas, o lythyrau a llawysgrifau i frasluniau a gweithiau celf. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys llyfrau nodiadau, darllediadau radio a dramâu radio.
Ganwyd Dylan Thomas ar 27 Hydref 1914 yn ardal Uplands, Abertawe, a bu farw ar 9 Tachwedd 1953 yn Efrog Newydd. Yn ystod ei oes ysgrifennodd lawer o gerddi adnabyddus, gan gynnwys Fern Hill, The Hunchback in the Park ac, wrth gwrs, Do Not Go Gentle Into That Good Night. Mae hefyd yn adnabyddus am ysgrifennu'r ddrama radio Dan y Wenallt, a'r casgliad o straeon, Portrait of the Artist as a Young Dog.
Meddai Hannah Ellis, sy’n wyres i Thomas ac yn rheolwr Ymddiriedolaeth Dylan Thomas: “Mae Ymddiriedolaeth Dylan Thomas yn falch iawn o ymuno â Chanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Tecsas a Phrifysgol Abertawe er mwyn gwireddu’r prosiect uchelgeisiol a hynod arwyddocaol hwn. Bydd yr archif ddigidol yn helpu pobl i ddeall mwy am y grefft fanwl a roddodd fy nhad-cu i’w waith.”
Mae gan Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe un o lyfrau nodiadau ‘coll’ yr awdur, llawysgrifau o’i gerddi Unluckily for a Death ac Into Her Lying Down Head, a phroflenni prin o sawl un o’i weithiau. Dyfernir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, un o'r gwobrau rhyngwladol mwyaf mawreddog i awduron ifanc, yn flynyddol am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.
Meddai Peter Stead, sylfaenydd a llywydd Gwobr Dylan Thomas: “Drwy ei eiriau a’i berfformiadau hudolus, llwyddodd Dylan Thomas i ennill clodydd yn Llundain a Gogledd America a sefydlu ei hun fel un o awduron mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif. Mae’r Wobr a sefydlwyd yn ei enw yn sicr wedi dal dychymyg awduron yn rhyngwladol.”
Dywedodd yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Fel ceidwaid rhai o’r darnau pwysicaf sy’n ymwneud â Dylan Thomas, mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r prosiect hwn a fydd yn gwneud ei waith yn fwy hygyrch ledled y byd, ac mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynyddu rôl gwaith Thomas ym myd addysg.”
Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd cronfa ar-lein o ddeunyddiau Dylan Thomas a gedwir yng Nghanolfan Ransom ar gael i ymchwilwyr a’r cyhoedd trwy borth casgliadau digidol ar ei gwefan.