Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Seithfed flwyddyn Bod yn Ddynol

Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe wedi cael ei ddewis i fod yn un o bedwar hyb Bod yn Ddynol 2020. Dyma unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU. 

Arweinir gŵyl Bod yn Ddynol, sydd yn ei seithfed flwyddyn erbyn hyn, gan Ysgol Astudiaethau Uwch Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Mae'r bartneriaeth hon yn dod â'r tri chorff pwysig sy'n canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo ymchwil y dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol at ei gilydd.

Bydd Bod yn Ddynol yn dychwelyd rhwng 12 a 22 Tachwedd a bydd thema eleni, sef ‘Bydoedd Newydd’, yn cynnig cyfle amserol iawn i fyfyrio ar newidiadau byd-eang sylfaenol 2020, o bandemig Covid-19 i brotestiadau Mae Bywydau Du o Bwys a'r etholiad pwysicaf yn yr Unol Daleithiau ers degawdau. Mae Bod yn Ddynol yn ŵyl am ddim a gynhelir mewn sawl dinas gyda channoedd o ddigwyddiadau am ddim i ddangos sut mae ymchwilwyr y dyniaethau'n gweithio bob dydd ar faterion sy'n llywio'r byd rydym yn byw ynddo.

Oherwydd pandemig Covid-19, cynhelir pob digwyddiad ar-lein eleni.

Bydd hyb Abertawe – ‘Adeiladu Bydoedd Newydd’ – yn cymharu hen fydoedd â bydoedd newydd drwy wleidyddiaeth, lles, creadigrwydd a chysylltedd pobl. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • ‘Byd Newydd, Dechrau o'r Newydd’ (12 Tachwedd)
    Ymunwch â ni i ddathlu gwydnwch a chysylltedd pobl drwy farddoniaeth wrth i ni baratoi am fyd ar ei newydd wedd. Bydd y beirdd arobryn Natalie Holborow ac Eric Ngalle Charles yn ymuno â'r bardd clodwiw a'r Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, wrth iddynt rannu gwaith newydd a gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ddarllen eu cerddi eu hunain.
  • ‘Gwawrio Oes Newydd: Arddangos Baneri Glowyr De Cymru’ (rhwng 12 a 22 Tachwedd). Mae'n hysbys bod o leiaf 50 o faneri a oedd yn perthyn i’r glowyr wedi bodoli yn ne Cymru a chedwir llawer ohonynt yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Fe'u defnyddiwyd mewn protestiadau, gorymdeithiau a gwrthdystiadau, gan gynnwys yn ystod streiciau'r glowyr ym 1972, 1974 a 1984-85. Mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio'r casgliad anhygoel hwn mewn arddangosfa ar-lein i archwilio'r delweddau, y lliwiau a'r sloganau, a'u hystyron.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol y Sefydliad Diwylliannol: “Rydym yn falch o gynnal hyb fel rhan o ŵyl Bod yn Ddynol 2020 ac rydym am ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ni ystyried sut gallai'r dyniaethau ein helpu i adeiladu bydoedd newydd.
“Oherwydd heriau 2020, mae'n bwysicach byth ein bod yn myfyrio ar y cyfrifoldeb o fod yn ddynol.”

Bydd Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe'n cyflwyno'r holl ddigwyddiadau ar-lein ac am ddim mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.

Cliciwch YMA i weld y rhestr gyflawn o ddigwyddiadau a chofrestru ar eu cyfer.

Rhannu'r stori