Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gwres nid gwastraff: ymchwil newydd i ystyried ailddefnyddio gwres gwastraff o fyd diwydiant
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.
Gall diwydiannau trwm ryddhau hyd at hanner yr ynni y maent yn ei ddefnyddio fel gwres gwastraff. Mae gwaith dur Port Talbot yn cynhyrchu digon o wres i fodloni gofynion gwresogi 500,000 o gartrefi; byddai ei ddal a'i ailddefnyddio'n gwrthbwyso mwy na miliwn tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddeunydd storio gwres thermocemegol a ddatblygwyd gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
Bydd ymchwilwyr yn ystyried a ellir defnyddio'r deunydd hwn er mwyn dal, storio a rhyddhau gwres gwastraff o waith dur Port Talbot. Byddant yn archwilio'r posibiliadau technegol, economaidd ac amgylcheddol.
Yr enw ar y prosiect 24 mis yw System Symudol o Storio Ynni fel Gwres (MESH).
Meddai'r Prif Ymchwilydd Dr Jonathon Elvins:
“Ein nod yn y pen draw yw gallu storio am gyfnodau hir yr ynni hwn a wastraffwyd yn flaenorol, a'i gludo i'r mannau lle y mae ei angen. Er enghraifft, gellid ei ddefnyddio i ddarparu gwres carbon isel neu ddi-garbon ar gyfer prosesau diwydiannol neu er mwyn gwresogi adeiladau megis cartrefi, swyddfeydd neu ysgolion.”
Meddai Richie Hart, Rheolwr Technoleg Prosesu Tata Steel:
“Fel diwydiant ynni-ddwys, rydym yn mynd ati’n barhaus ar ein safle ym Mhort Talbot i lunio mesurau effeithlonrwydd ynni, ond mae bob amser yn anodd iawn ailafael mewn ynni gwres isel.
“Mae'r prosiect hwn yn cynnig y posibilrwydd o sicrhau gwerth o'r math hwn o wres, yn ogystal â helpu i leihau ôl troed CO2 y rhanbarth.”
Dyfarnwyd cyllid gwerth £250,000 i'r prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a FLEXISApp, sef partneriaeth rhwng prifysgolion Abertawe, Caerdydd a De Cymru, byd diwydiant a'r llywodraeth sy'n ceisio datblygu technolegau ynni arloesol. Bydd partneriaid y prosiect yn darparu arian cyfatebol ychwanegol gwerth £50,000.
Meddai Prif Ymchwilydd FLEXISApp, yr Athro Dave Worsley:
“Mae MESH yn brosiect partneriaeth cyffrous. Mae Dr Jon Elvins, ei dîm yng nghanolfan SPECIFIC a Tata Steel eisoes wedi gwneud cynnydd mawr wrth ymchwilio i storio gwres thermol.
“Mae FLEXISApp yn gallu ariannu'n rhannol ddatblygiad masnachol technolegau sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio diwydiannol a lleihau nwyon tŷ gwydr.
“Drwy adnoddau a chyllid ychwanegol FLEXISApp, gellir datblygu'r bartneriaeth hon ymhellach, er mwyn bwrw ymlaen â'r broses o greu technoleg werdd newydd a lleihau allyriadau carbon deuocsid ym myd diwydiant.”