Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llwyddiant arall i Tennessee ar ôl ennill rhagoriaeth yn ei gradd meistr

Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe sydd hefyd yn bencampwraig y byd ym maes cicfocsio ar ben ei digon ar ôl ennill gradd meistr. 

Sicrhaodd Tennessee Randall, 22, ragoriaeth mewn seicoleg glinigol ac iechyd meddwl i ychwanegu at bencampwriaeth Cymdeithas Sefydliadau Cicfocsio'r Byd (WAKO) a gipiodd ym mis Rhagfyr 2019.

Mae'r seren a aned yn Llanelli wedi gorfod cydbwyso astudio a chystadlu ers cyn cof, gan raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn seicoleg mor ddiweddar â'r llynedd.

Er ei bod hi'n dasg anodd, mae Tennessee yn cyfaddef bod yr ymdrech wedi bod yn werthfawr yn y pen draw.

“Mae wedi bod yn heriol iawn,” meddai. “Ni allwn gyfrif faint o weithiau y bu'n rhaid i mi wneud gwaith cartref yn ystod cystadlaethau oherwydd bod arholiadau neu derfynau cau ar gyfer gwaith cwrs yn agosáu.

“Fodd bynnag, rwyf bob amser yn ceisio cadw cydbwysedd da rhwng ymarfer ac astudio. Mae'n anodd ond os ydych yn gwneud digon o ymdrech, gallwch gael y gorau o'r ddau fyd, sef astudio a chystadlu.

“Hoffwn ddiolch i'm goruchwylydd ymchwil, Laura Wilkinson, am ei holl help a chefnogaeth. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio dan oruchwyliaeth Laura ac rwy'n gobeithio y caf gyfle i weithio gyda hi eto yn y dyfodol.”

Dechreuodd Tennessee gicfocsio pan oedd yn saith oed, a gwireddodd ei breuddwyd o ennill pencampwriaeth y byd 12 mis yn ôl.

Roedd hi eisoes wedi cael ei henwi'n seren fenywaidd ddisgleiriaf y cylch sgwâr ar ôl ennill pencampwriaeth Ewrop yn Slofenia.

“Roedd yn deimlad anhygoel ac emosiynol,” meddai Tennessee. “Er fy mod wedi ennill pencampwriaeth iau'r byd, fy nod yn y pen draw oedd llwyddo i'w hennill fel oedolyn.

“Roedd yn rhaid i mi ymroi tair blynedd o waith caled ac aberth, ond roedd y cwbl yn werthfawr. Roedd hefyd yn arbennig iawn bod fy nheulu yno gyda mi yn Nhwrci. Mae fy holl deulu wedi fy nghefnogi'n fwy na neb o'r dechrau'n deg, felly roedd y ffaith eu bod wedi bod yn bresennol i wylio fy nghamp fawr yn wych.”

Gwaetha'r modd, bydd yn rhaid i Tennessee aros cyn amddiffyn ei choron gan fod pencampwriaeth y byd eleni wedi cael ei gohirio o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws, ond mae ei bryd eisoes ar ddychwelyd i'r cylch sgwâr yn 2021.

“Dylwn i fod wedi mynd i Gemau EUSA (Cymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Ewrop) yn Serbia,” meddai. “Y llynedd enillais fedal aur a medal arian ac ni wnaeth yr un cynrychiolydd arall o Brydain Fawr gipio medal aur, felly roedd yn siomedig na chefais gyfle i gystadlu yno eto.

“Dylwn i hefyd fod wedi amddiffyn coron Ewrop ym mhencampwriaeth uwch WAKO yn Nhwrci. Byddai ennill medal yno hefyd wedi sicrhau fy hawl i gystadlu yn Gemau Ymladd y Byd, a ddylai fod wedi cael eu cynnal yn 2021.

“Bu'n rhwystredig iawn gan fy mod yn dwlu ar gystadlu ar lefel uchaf fy nghamp, ond caf ragor o amser i baratoi a sicrhau fy mod yn fy anterth pan fyddaf yn cyrraedd cystadlaethau y flwyddyn nesaf.”

Er nad yw cicfocsio'n rhan o'r Gemau Olympaidd eto, mae'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi cydnabod WAKO, sy'n arwydd bod pethau'n gwella, yn enwedig i Tennessee.

Ond, yn ogystal â'i gobeithion a'i breuddwydion personol, mae'r fenyw ifanc hon am ddarganfod y seren leol nesaf.

“Yn ddiweddar, mae fy nhad a minnau wedi agor clwb cicfocsio newydd yn Llanelli,” meddai. “Rydym wedi addysgu sgiliau cicfocsio mewn neuadd gymunedol ers pedair blynedd, ond rydym wedi llwyddo o'r diwedd i ddod o hyd i leoliad addas fel y gallwn fod ar agor yn amser llawn. Rwy'n frwd iawn dros addysgu ac rwyf am drosglwyddo fy ngwybodaeth i'r genhedlaeth nesaf o bencampwyr.

“Ond pe bai cicfocsio'n rhan o'r Gemau Olympaidd cyn i fy ngyrfa ddod i ben, byddai hynny'n gwireddu fy mreuddwyd!”

Rhannu'r stori