Bydd adeiladau ynni gweithredol – sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain – yn cael eu hadeiladu yn India, gan helpu rhai o'r 600,000 o bentrefi yn y wlad sy'n cael problemau gyda chyflenwad trydan.
Gwnaed y cyhoeddiad gan brosiect SUNRISE, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn ystod cyflwyniad o fentrau arloesol rhwng Prydain ac India o flaen Ysgrifennydd Tramor y DU, Dominic Raab, a chynulleidfa llawn cydweithredwyr a buddsoddwyr posib.
Profwyd eisoes fod cysyniad adeiladau gweithredol yn gweithio. Mae'r Swyddfa a'r Ystafell Ddosbarth Ynni Gweithredol ar gampws Prifysgol Abertawe eisoes wedi llwyddo i gynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio.
Nawr, bydd y model yn cael ei gyflwyno yn India. Mae ffynhonnell ddibynadwy o ynni glân yn hanfodol er mwyn helpu cymunedau gwledig yn India i fynd i'r afael â thlodi, sicrhau cyflenwad dŵr glân a datblygu'n economaidd.
Mae'r cynlluniau'n cael eu llywio gan rwydwaith SUNRISE, sef cydweithrediad ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n uno sawl prifysgol flaenllaw yn y DU ac yn India â phartneriaid diwydiannol. Nod SUNRISE yw mynd i'r afael â thlodi ynni byd-eang drwy dechnolegau solar y genhedlaeth nesaf. Enillodd y prosiect wobr Times Higher Education yn ddiweddar am y cydweithrediad rhyngwladol gorau.
Gwnaeth yr Athro Satish Patil (IISc, Bengaluru) a Mr Arunavo Mukerjee (Tata Cleantech Capital), sy'n aelodau o dîm SUNRISE, amlinellu'r cynlluniau – sef rhaglen OASIS – i gynulleidfa llawn cynrychiolwyr llywodraeth India a buddsoddwyr. Roedd yn rhan o gyflwyniad o brosiectau cynaliadwyedd a oedd yn cynnwys arbenigedd o'r DU yn ystod ymweliad Ysgrifennydd Tramor y DU, Dominic Raab, â Sefydliad Gwyddoniaeth India yn Bengaluru ar 17 Rhagfyr 2020.
Byddai'r tîm yn defnyddio adeilad parod fel y gragen cyn gosod technolegau fel paneli solar integredig a batris ar gyfer storio ynni, er mwyn ei alluogi i fod yn adeilad ynni gweithredol.
Bydd yr adeilad OASIS cyntaf yn cael ei adeiladu mewn pentref yn nhalaith Maharashtra yn India. Bydd eraill yn dilyn os gellir dod o hyd i gydweithredwyr a buddsoddwyr i gefnogi'r cynllun.
Meddai Dirprwy Uchel Gomisiynydd Prydain i Karnataka a Kerala, Jeremy Pilmore-Bedford:
“Mae'r DU, fel cyflwynwyr cynhadledd COP26 eleni, ar flaen y gad yn fyd-eang gyda'n hymrwymiadau uchelgeisiol iawn i leihau carbon. Mae'r DU ac India wedi gosod targedau uchelgeisiol i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni solar ac ynni'r gwynt.
Mae prosiect SUNRISE yn enghraifft wych arall o'r bartneriaeth ffyniannus rhwng y DU ac India i hyrwyddo ynni glân a datblygu cynaliadwy. Mae hefyd yn tanlinellu'r bartneriaeth ymchwil ac arloesi gref a chynyddol rhwng y ddwy wlad sydd o fudd i bobl yn y DU ac yn India, yn ogystal ag ym mhedwar ban byd.”
Meddai'r Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe, Prif Ymchwilydd tîm SUNRISE:
“Rydym eisoes wedi dangos bod cysyniad adeiladau gweithredol yn gweithio – nawr, rydym am ddangos sut gallai helpu cymunedau yn India, ac wedi hynny mewn gwledydd eraill hefyd o bosib. Mae SUNRISE yn seiliedig ar gydweithrediad arbenigol rhwng y DU ac India, ond mae angen cefnogaeth buddsoddwyr a chydweithredwyr yn India arnom hefyd er mwyn gwireddu ein cynlluniau.
Cyflenwad ynni glân dibynadwy yw sail datblygu cynaliadwy. Mae'n helpu i ddarparu glanweithdra effeithiol a dŵr glân. Gall hefyd hybu cynhyrchiant amaethyddiaeth leol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer entrepreneuriaeth, a gwella'r cysylltedd rhwng cymunedau a busnesau.”
Ychwanegodd Dr Martin Brunnock, Cyfarwyddwr Strip Products UK Tata Steel:
“Mae gan lywodraeth India strategaeth ynni uchelgeisiol iawn ac mae ynni solar yn ganolog iddi. Gall rhaglen OASIS helpu i roi'r strategaeth ar waith, drwy ddarparu ynni adnewyddadwy glân i gymunedau heb fuddsoddiad mawr mewn isadeiledd grid.”