Roedd yr hyfforddwraig rygbi Tirion Thomas yn falch o gael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i chwaraeon, ond mae hi bellach yn rhoi'r un ymrwymiad i'w gyrfa hirdymor ag y mae i bob gêm.
Roedd y fenyw 19 oed yn fuddugol yng nghategori’r Arwr Tawel yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru y mis diwethaf ar ôl hyfforddi timau merched dan 13 oed, dan 15 oed a dan 18 oed y Bala, yn ogystal â bod yn gapten ar dîm dan 18 oed Clwb Rygbi Gogledd Cymru (RGC).
Ond mae'n dweud mai ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe yw ei phrif flaenoriaeth am y tro. Meddai'r fyfyrwraig sydd ym mlwyddyn gyntaf ei chwrs bydwreigiaeth: “Bu'n uchelgais i mi fod yn fydwraig ers tro byd.
“Ar ôl ymroi popeth i rygbi yn ystod y tair blynedd diwethaf, roeddwn yn gwybod mai dyma'r amser i ymroi i'm gyrfa hirdymor, felly rwyf wedi lleihau fy ymrwymiadau rygbi.”
Fodd bynnag, mae'r gamp yn rhan bwysig o'i bywyd o hyd, yn enwedig yn ystod y pandemig.
“Mae'n hanfodol i mi ddod o hyd i gydbwysedd rhwng fy ngradd a'm brwdfrydedd dros rygbi. Mae'n fy ngalluogi i wneud yr hyn rwyf yn ei fwynhau yn ogystal â hybu fy iechyd meddwl – sy'n bwysig iawn wrth gwblhau cwrs trwm sy'n cynnig heriau unigryw.”
Meddai Susie Moore, Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth: “Rydym mor falch o Tirion a'i chyflawniad. Mae'r ffaith ei bod wedi dangos cymaint o ymrwymiad ac ymroddiad i rywbeth sy'n bwysig iddi yn dweud cyfrolau amdani. Rydym yn falch ei bod hi'n cyfeirio'r egni a'r brwdfrydedd hwnnw at ei hastudiaethau gyda ni ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi.”
Ers symud i Abertawe o ogledd Cymru, mae Tirion wedi bod yn ymarfer gyda thîm rygbi'r Brifysgol – pan fo rheoliadau Covid-19 yn caniatáu hynny – yn ogystal â helpu'r clwb rygbi y dechreuodd hi chwarae iddo pan oedd hi'n 11 oed.
Denwyd Tirion at rygbi ar ôl iddi roi cynnig ar ddawnsio a gymnasteg. “Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw beth yn gwneud y tro i mi tan i mi ddarganfod fy nghariad at rygbi. Pan wnaethom symud o Fanceinion i'r Bala, ymunais â thîm rygbi'r merched ac rwyf wedi bod yn rhan o'r clwb ers hynny.”
Dair blynedd yn ôl, pan oedd tîm y merched heb hyfforddwr, cydiodd Tirion yn yr awenau.
“Ni allwn i wylio'r tîm yn diflannu, yn enwedig ar ôl i mi gael cymaint o fwynhad dros y blynyddoedd.”
Mae hi'n gobeithio y bydd ennill y wobr uchel ei bri yn helpu i ddenu rhagor o sylw at rygbi menywod.
“Mae'r fath wobr yn anferth i rygbi'n gyffredinol. Yn ogystal â chydnabod fy ngwaith i, mae'n cydnabod ymdrechion pawb sy'n cyfrannu at rygbi menywod a dylanwad y gamp, yn enwedig yma yng Nghymru, a dyna effaith fwyaf y wobr, yn fy marn i.
“Roedd hi'n fraint fy mod wedi cael fy enwebu, ond roedd ennill yn anhygoel. Rwyf ar ben fy nigon o hyd. Mae hyfforddi a gwirfoddoli'n mynd â'm bryd o hyd, felly mae'n wych gwybod bod yr hyn rwy'n ei wneud yn cael effaith gadarnhaol ar eraill. Mae rygbi'n rhoi cyfle i mi reoli'r straen sydd arnaf ac mae hyfforddi'n rhoi llawenydd i mi.”
Dwy gydol y cyfyngiadau symud, mae Tirion ac aelodau eraill ei thîm wedi bod yn manteisio ar dechnoleg i gadw mewn cysylltiad, ond bu'n gyfnod heriol. Meddai: “Dyma adeg heriol yn bendant. Yr hyn rwyf am ei wneud yn fwy na dim ar hyn o bryd yw mynd yn ôl ar y cae a chwarae 80 munud o rygbi. Yr hyn sy'n fy ysgogi yw gwybod y byddwn ni yn ôl ar y cae yn y pen draw ac mae angen i mi fod yn barod am hynny.
“Mae rygbi'n hollbwysig i mi – boed fel chwaraewr, hyfforddwr neu gefnogwr, rwy'n teimlo bod y gymuned rygbi'n un teulu mawr ac mae'n rhoi rhwydwaith cymorth gwych.”