Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe'n datgelu bod pobl ledled y byd yn glynu wrth ffordd o addysgu sy'n aneffeithiol ac a all fod yn niweidiol i ddysgwyr.
Ers degawdau mae addysgwyr wedi cael eu cynghori i addysgu yn ôl dulliau dysgu tybiedig myfyrwyr. Mae mwy na 70 o systemau dosbarthu gwahanol, ond mae'r un fwyaf adnabyddus (VARK) yn categoreiddio unigolion fel dysgwyr gweledol, clywedol, darllen ac ysgrifennu neu ginesthetig.
Fodd bynnag, mae papur newydd gan yr Athro Phil Newton, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn nodi bod athrawon yn dal i lynu wrth yr ymagwedd aneffeithiol hon ac yn galw am ymagwedd at hyfforddi athrawon sy'n rhoi mwy o bwyslais ar dystiolaeth.
Esboniodd fod adolygiadau amrywiol a gynhaliwyd ers canol degawd cyntaf y ganrif hon wedi dod i'r casgliad nad oes unrhyw dystiolaeth o blaid y syniad bod addysgu myfyriwr yn ôl ei ddull dysgu honedig yn ei helpu i ddysgu'n well.
Meddai'r Athro Newton: “Mae'r hyder ymddangosiadol eang hwn mewn ffordd o addysgu sy'n aneffeithiol ac a all hefyd fod yn niweidiol yn destun pryder i'r gymuned addysg.”
Daeth ei adolygiad, a gynhaliwyd ar y cyd ag Atharva Salvi, un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, i'r casgliad fod mwyafrif sylweddol o addysgwyr, sef bron 90 y cant, mewn meysydd addysg gwahanol ledled y byd yn dweud eu bod yn credu bod dulliau dysgu yn effeithiol.
Ond mae'r astudiaeth yn datgan bod perygl y gallai dysgwr gael ei labelu a cholli ei gymhelliant o ganlyniad i hynny.
Meddai: “Er enghraifft, ar ôl categoreiddio myfyriwr fel dysgwr clywedol, efallai na fydd yn credu bod diben iddo ddilyn pynciau gweledol megis celf, na phynciau ysgrifennu fel newyddiaduraeth, ac y bydd yn colli ei gymhelliant yn ystod y dosbarthiadau hynny.”
Mae creu disgwyliadau gormodol ac afrealistig ymhlith addysgwyr yn destun pryder arall.
Meddai'r Athro Newton: “Os nad yw myfyrwyr yn cyflawni'r graddau academaidd disgwyliedig, os nad ydynt yn mwynhau dysgu, ac os nad ydynt yn cael eu haddysgu yn ôl eu dull dysgu tybiedig, yna mae'n bosib y byddant yn priodoli'r profiadau negyddol hyn i'r ffaith honno ac yn colli eu cymhelliant i astudio yn y dyfodol.”
Ychwanegodd: “Gellid gwastraffu amser ac adnoddau gwerthfawr wrth geisio dod o hyd i ddull addysgu myfyriwr.”
Mae’r papur yn nodi bod llawer o ffyrdd eraill o addysgu sy'n helpu pobl i ddysgu, a hynny'n amlwg, sy'n syml ac y gellir eu dysgu'n hawdd, megis defnyddio profion anffurfiol, neu fylchu hyfforddiant, ac y byddai'n well canolbwyntio ar hyrwyddo'r rhain.
Yn y papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Frontiers in Education, mae'r ymchwilwyr yn nodi sut gwnaethant adolygu astudiaethau perthnasol er mwyn gweld a yw'r data yn awgrymu bod dryswch yn bodoli.
Gwelsant fod 89.1 y cant o'r 15,045 o addysgwyr o'r farn bod unigolion yn dysgu'n well pan gyflwynir gwybodaeth iddynt yn y dull dysgu a ffefrir ganddynt.
Meddai: “Efallai'r testun pryder mwyaf yw'r casgliad nad oes unrhyw dystiolaeth bod y farn hon yn llai cyffredin nag ydoedd.”
Mae'r Athro Newton yn awgrymu bod hanes yn ailadrodd ei hun: “Os bu addysgwyr yn destun dulliau dysgu yn ystod eu hamser fel myfyrwyr, yna mae'n rhesymol y byddent, wrth ddechrau cael eu hyfforddi i fod yn athrawon, yn credu bod defnyddio dulliau dysgu yn rhywbeth cadarnhaol, felly byddai'r farn hon yn parhau'n naturiol.”
Mae'r astudiaeth yn dod i'r casgliad bod nifer helaeth o addysgwyr yn dal i gredu y dylid addysgu yn ôl dulliau dysgu.
Meddai: “Nid oes unrhyw arwydd bod y sefyllfa hon yn gwella, er gwaethaf blynyddoedd lawer o waith, mewn llenyddiaeth academaidd ac yn y wasg boblogaidd, sy'n dangos y diffyg tystiolaeth.”
Fodd bynnag, gwnaeth rybuddio hefyd na ddylid gorymateb i'r data, gan ei bod hi'n bosib nad oedd yn glir bod y cwestiynau i'r addysgwyr yn ymwneud â systemau dulliau dysgu penodol, yn hytrach na'r hyn roedd unigolion yn ei ffafrio neu ffyrdd eraill o ddehongli'r ddamcaniaeth.
“Er mwyn meithrin dealltwriaeth gyflawn, dylai gwaith yn y dyfodol ganolbwyntio ar ymddygiad gwrthrychol addysgwyr. Faint ohonom sy'n addysgu yn ôl dulliau dysgu unigol myfyrwyr, a beth yw'r effeithiau pan wneir hynny? A ddylem ganolbwyntio ar hyrwyddo ymagweddau effeithiol yn hytrach nag ar chwalu mythau?”