Mae prosiect Copperopolis, sydd wrth wraidd y broses o adfywio gwaith copr yr Hafod-Morfa, wedi cael ei ddewis fel esiampl o'r ffordd y mae prifysgolion ledled Cymru yn gweithio gyda'u cymunedau, gan greu manteision cymdeithasol ac economaidd.
Mae grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau ac elusennau wedi cymryd rhan yn y prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe. Bu'r pwyslais ar adfywio gwaith copr yr Hafod-Morfa, a fu gynt yn ganolbwynt i ddiwydiant copr y byd. Mae'r gwaith wedi pwysleisio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Cwm Tawe Isaf a'i phwysigrwydd i'r ddinas.
Copperopolis – Gwyliwch y fideo a gynhyrchwyd ar gyfer y digwyddiad.
Esboniodd Dr Alex Langlands o Adran Hanes Prifysgol Abertawe, sy'n arwain prosiect Copperopolis:
“Mae'r gwaith a wnaed gan y Brifysgol, gyda’n partneriaid, wedi codi proffil treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Cwm Tawe Isaf. Rydym wedi dangos pa mor bwysig y bu'r diwydiant copr i ddinas Abertawe a'i hanes.
Rydym am dreulio hyd yn oed mwy o amser yn gweithio gyda chymunedau, elusennau, ysgolion, colegau a busnesau. Y nod yw i ni ddeall anghenion cymunedau yn well, fel y gallwn gyfrannu at fanteision cymdeithasol ac adfywiad economaidd yn y rhanbarth.”
Meddai'r Athro Louise Miskell o Adran Hanes Abertawe:
“Mae'r gwaith ymchwil dan arweiniad yr Adran Hanes wedi datgelu bod copr Abertawe wedi bod yn adnabyddus yn fyd-eang yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n rhan allweddol o hunaniaeth y ddinas ac rydym am i bob preswylydd presennol, hen ac ifanc, fod yn ymwybodol ac yn falch o'r hanes.”
Roedd y ffilm am brosiect Copperopolis yn un o gyfres a ddangoswyd mewn digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gan Brifysgolion Cymru, sy'n cynrychioli prifysgolion ledled y wlad.
Cynhaliwyd y digwyddiad er mwyn lansio fframwaith cenhadaeth ddinesig newydd i helpu prifysgolion i adeiladu ar y ffyrdd y maent yn gweithio gyda phobl, ysgolion a chymunedau. Cyflwynodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, y brif araith.
Mae Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru wedi datblygu'r fframwaith, a fydd yn cefnogi prifysgolion i gyflwyno manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol drwy gysylltu'n agosach â chymunedau ledled Cymru a'r tu hwnt.
Meddai Lynnette Thomas, Cadeirydd y Rhwydwaith Cenhadaeth Ddinesig:
“Mae prifysgolion yng Nghymru wedi meddu ar wreiddiau dwfn yn eu cymunedau ers amser maith, yn ogystal â hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.
Bydd y Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig yn cynnig adnodd effeithiol a fydd yn galluogi prifysgolion i barhau i adeiladu ar y gwaith hwn er mwyn cefnogi ein cymunedau mewn meysydd mawr eu hangen a helpu i greu Cymru sy'n gadarnach ac yn fwy cyfartal.”