Mae dau o gyrsiau Prifysgol Abertawe ymysg y cymwysterau ôl-raddedig cyntaf i gael eu hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mae'r Gymdeithas wedi cymeradwyo'r cwrs MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd a'r cwrs MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd.
Lansiodd y Gymdeithas gynllun achredu rhaglenni israddedig yn 2016, ond dyma'r tro cyntaf iddi dderbyn ceisiadau gan raglenni gradd meistr.
Dyma gam sy'n ceisio cydnabod arferion da o ran dysgu ac addysgu daearyddiaeth ym maes addysg uwch yn y DU, gan gefnogi gwelliant parhaus o ran ansawdd a hyrwyddo canlyniadau da i fyfyrwyr ym mhob rhan o'r sector.
Meddai Dr Iain Robertson, o Adran Daearyddiaeth y Brifysgol: “Rydym yn falch iawn ein bod yn un o'r rhaglenni ôl-raddedig cyntaf i gael eu hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (ar y cyd ag IBG).
“Mae cael ein hachredu gan gorff proffesiynol mor uchel ei barch yn sicrhau bod ein cyrsiau'n flaenllaw mewn maes sy'n newid yn gyflym a'u bod yn dal i fod yn berthnasol i'r cyhoedd.”
Bydd y rhai sy'n cyflwyno cais am y ddau gwrs yn cael y cyfle i elwa ar arbenigedd staff o ran ymchwil ryngddisgyblaethol i wybodaeth ddaearyddol, deinameg yr amgylchedd a'r hinsawdd, bioleg y môr ac ecosystemau, a datblygu cynaliadwy.
Mae graddedigion llwyddiannus wedi mwynhau cyfleoedd i gael gwaith mewn amrywiaeth o sefydliadau, gan dderbyn swyddi ysgogol amryfal.
Meddai Rhys Jones, sydd bellach yn arbenigwr tir graddedig (GLS) gyda'r cwmni peirianneg sifil Jacobs: “Hoffwn ddiolch i bawb yn yr adran am gynnal cwrs sydd wedi rhoi cyfle i mi gael swydd rwy'n dwlu arni. Ni fyddai wedi bod yn bosib heb fy ngradd meistr.”
Cofrestrwch ar gyfer un o ddiwrnodau agored rhithwir y Brifysgol er mwyn cael mwy o wybodaeth am astudio yn Abertawe.