Mae grant Ewropeaidd sylweddol wedi cael ei ddyfarnu i bartneriaid yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i wneud gwaith ymchwil ar ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
Bydd y prosiect ‘Ceirch Iach’ yn cael grant gwerth €2m fel rhan o'r cynllun INTERREG rhwng Cymru ac Iwerddon a ariennir drwy lywodraethau Cymru ac Iwerddon.
Mae'r galw am geirch yn cynyddu wrth i ddefnyddwyr chwilio am fwydydd iachach a dewisiadau llysieuol. Mae gwneuthurwyr bwyd yn datblygu eu hamrywiaeth o gynhyrchion ceirch yn barhaus o uwd traddodiadol a bara ceirch i farrau ŷd, bara a diodydd.
Bydd y prosiect yn ceisio datblygu mathau newydd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, yn ogystal â chynhyrchion a gweithdrefnau arloesol ar y cyd â phartneriaid diwydiannol.
Bydd ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda chymunedau amaethyddol a rhanddeiliaid i hyrwyddo manteision iechyd, economaidd ac amgylcheddol tyfu ceirch – cnwd sy'n ddelfrydol ar gyfer hinsawdd Cymru ac Iwerddon.
Mae'r prosiect yn dod â gwyddonwyr ynghyd o Goleg Prifysgol Dulyn (UCD) fel y sefydliad arweiniol ac Awdurdod Amaethyddiaeth a Datblygu Bwyd Iwerddon (Teagasc) ar y cyd â Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, a Phrifysgol Abertawe.
Mae Ceirch Iach yn Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/Cymru 2014-2020 dan raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Bydd yn atgyfnerthu arloesi tiriogaethol ym maes datblygu cynhyrchion ceirch, gan ddod ag arbenigedd unigryw ynghyd yn Iwerddon (UCD a Teagasc) a Chymru (prifysgolion Aberystwyth ac Abertawe) ar ddewis deunydd celloedd cenhedlu, genoteipio ceirch, ymddygiad defnyddwyr a datblygu cynhyrchion ceirch.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gynyddu dwysedd cydweithrediadau trosglwyddo gwybodaeth sy'n ymwneud â sefydliadau ymchwil a busnesau bach a chanolig.
Mae arbenigedd gwerthuso deunydd celloedd cenhedlu yng Nghymru'n ategu arbenigedd UCD o ran sgrinio am glefydau; gyda'i gilydd byddant yn dewis y genoteipiau mwyaf addawol o ran perfformiad yn y maes. Yn bwysig, caiff eu dewisiadau eu llywio gan anghenion cyffredin diwydiant yng Nghymru ac Iwerddon, a gaiff eu llywio yn eu tro gan astudiaethau o ymddygiad iechyd a defnyddwyr yng Nghymru ac Iwerddon.
Bydd Dr Richard Bracken, o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe, yn cyfrannu at y prosiect drwy archwilio manteision cardio-metabolaidd mathau gwell o geirch a allai helpu i leihau nifer yr achosion o glefydau'r galon drwy ostwng colesterol neu wella lefelau glwcos yng ngwaed pobl.
Meddai Dr Richard Bracken:
“Gan gydnabod y cynnydd yn nifer yr achosion o ordewdra a diabetes mewn cymdeithasau cyfoes sydd wedi cael eu gorllewineiddio, mae ‘Ceirch Iach’ yn brosiect uchelgeisiol rhwng Cymru ac Iwerddon sy'n ceision gwella'r wybodaeth am nodweddion ceirch sy'n fuddiol i fetabolaeth pobl.
Drwy ddefnyddio arbenigwyr o'r ddwy ochr i fôr Iwerddon, rydym am ddangos prosiect llwyddiannus ‘o'r fferm i'r fforc’ sy'n ceisio datblygu dewisiadau bwyd newydd iach i ddefnyddwyr.”
Ymchwil Abertawe: arloesi ym maes iechyd; dyfodol cynaliadwy