Mae rhai o fyfyrwyr nyrsio Prifysgol Abertawe wedi helpu cleifion mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.
Roedd y myfyrwyr yn awyddus i roi help llaw ar ôl clywed pa mor anodd ydoedd i gleifion gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd wrth i'r pandemig atal ymweliadau ag ysbytai.
Aeth y grŵp o fyfyrwyr nyrsio oedolion yn eu blwyddyn gyntaf ati i geisio codi £1,000 i brynu iPads ychwanegol i Ward Sunderland yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro.
Yn y diwedd, gwnaethant ragori ar eu targed a chasglu mwy na £2,400 drwy gynnal raffl o eitemau a gwasanaethau a roddwyd gan gwmnïau lleol.
Mae Shannon John, Ruth Morgan, Lisa Prest, Shanice Riley, Anna Griffiths ac Aneesah Akbar i gyd yn hanu o Sir Benfro, ac yn astudio ar Gampws Dewi Sant Prifysgol Abertawe.
Gwnaeth y ffrindiau fathu'r cynllun i godi arian ar ôl i Anna a Ruth dreulio amser ar leoliad gwaith yn yr ysbyty cymunedol.
Meddai Shannon: “Pan oeddent yno, roeddent yn gallu gweld pa mor anodd ydoedd i gleifion gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.
“Dim ond cwpl o iPads oedd ar y ward ac roedd yn rhaid eu rhannu ymhlith y cleifion.
“Felly, gwnaethom benderfynu gwneud rhywbeth am y sefyllfa. Rydym yn dîm da ac rydym wedi cydweithio'n dda i roi'r cynllun hwn ar waith. Yn y diwedd, gwnaethom lwyddo i gynnal raffl ar-lein a chynnig oddeutu 30 o wobrau gwych.”
Dywedodd Shannon fod cyfraniad gwerth £500 gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau wedi chwyddo'r cyfanswm hefyd.
“Roeddem am roi help llaw gan fod rhai cleifion wedi methu cael cyfle i gysylltu â'u teulu ers dechrau'r pandemig ac roeddem yn hapus y gallem wneud rhywbeth ymarferol,” ychwanegodd. “Roeddem wrth ein boddau ein bod wedi cael ymateb mor wych.”
Dywedodd Jayne Cutter, Pennaeth Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, fod ymdrechion y grŵp wedi creu argraff fawr arni: “Mae bod yn yr ysbyty'n straen fawr ar unrhyw adeg, ond mae bod yn yr ysbyty yn ystod pandemig Covid-19 yn waeth byth. Gall cefnogaeth teuluoedd a ffrindiau wneud gwahaniaeth anferth i les cleifion ac amser ymwelwyr yw uchafbwynt eu diwrnod.
“Mae'r cyfyngiadau ar ymweld ag ysbytai oherwydd coronafeirws wedi golygu bod cleifion wedi gweld eisiau'r gefnogaeth hollbwysig honno. Nid yw'r dechnoleg sy'n galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad ar gael i bawb.
“Mae'r iPads bellach wedi cael eu prynu ac maent yn cael eu defnyddio, gan alluogi cleifion i gysylltu â'u hanwyliaid, sy'n hollbwysig. Maent hefyd wedi cynllunio gweithgareddau eraill i godi arian yn ystod y flwyddyn i ddod.
“Mae gradd mewn nyrsio yn heriol ac mae pwysau mynd ar leoliadau gwaith yn ystod y pandemig yn anferth. Mae'r ffaith eu bod wedi dangos y fath dosturi yn dweud cyfrolau am eu gwerthoedd ac rwy'n siŵr y byddant yn gaffaeliad i nyrsio fel proffesiwn.