Mae’r llun yn dangos logo CYSYLLTU

Mae prosiect newydd ar y cyd sydd am gefnogi myfyrwyr sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig wedi cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).  

Mae CYSYLLTU yn brosiect rhwng y ddwy brifysgol a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Ei nod yw hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac iach, gwella lles a lleihau unigrwydd ymhlith myfyrwyr yn y prifysgolion, drwy gymorth gan gymheiriaid a gweithgareddau grŵp.

Sefydlwyd CYSYLLTU mewn ymateb i dystiolaeth sy'n awgrymu bod myfyrwyr yn teimlo'n fwyfwy ynysig. Mae'r prosiect am fynd i'r afael â'r broblem hon yn gynnar er mwyn helpu i leihau'r perygl y ceir problemau seicolegol neu gymdeithasol eraill.

Meddai'r Athro Gareth Stratton, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol Prifysgol Abertawe dros Weithgarwch Corfforol, Iechyd, Chwaraeon a Lles: “Dangosodd astudiaeth ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe nad aeth 42% o fyfyrwyr i ddigwyddiad yn y brifysgol oherwydd nad oedd ganddynt neb i fod yn gwmni iddynt. Mae'n gamddealltwriaeth gyffredin bod pawb mewn prifysgol yn teimlo'n rhan o grŵp neu'n gallu galw ar lwyth o ffrindiau. Heddiw, mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n ynysig neu'n unig a gall unigrwydd gynyddu'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn datblygu problem iechyd meddyliol neu gorfforol.”

Mae'r prosiect yn gweithio drwy greu cymunedau cefnogol yn y prifysgolion drwy weithio gyda staff a myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener; yn hytrach na bod yn wasanaeth argyfwng, mae'n cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol i fyfyrwyr. Dros y misoedd diwethaf, mae CYSYLLTU wedi bod yn hyfforddi cymuned o gysylltwyr ymhlith y staff a'r myfyrwyr yn y ddwy brifysgol er mwyn cefnogi myfyrwyr sy'n teimlo'n ynysig neu'n unig, neu sy'n cael trafferthion o ran integreiddio'n gymdeithasol. Mae CYSYLLTU yn cael ei lansio'n amserol oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol parhaus o ganlyniad i Covid-19 a'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig.

Gall myfyrwyr gael cymorth drwy gofrestru ar y wefan lle gallant gael gafael ar restr o fyfyrwyr sy'n gysylltwyr. Gall myfyrwyr sy'n gysylltwyr gynnig cymorth personol gan gymheiriaid, gan gynnwys:

  • gwrando ar fyfyrwyr sy'n teimlo'n ynysig neu'n unig
  • mynd i ddigwyddiadau cymdeithasau/prifysgol gyda myfyrwyr sy'n ofidus am fynd ar eu pennau eu hunain (yn amodol ar gyfyngiadau'r pandemig)
  • helpu myfyrwyr i ddod ynghyd fel grŵp a chefnogi ei gilydd
  • rhannu negeseuon cadarnhaol a gwybodaeth am ymgyrchoedd a digwyddiadau ar gampws
  • cyfeirio i wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael ar gampws neu oddi arno

Ar y wefan, bydd myfyrwyr hefyd yn gweld rhestr o staff sy'n gysylltwyr sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl. Gall staff sy'n gysylltwyr hefyd gysylltu myfyrwyr â chysylltwyr ymhlith y myfyrwyr, rhoi gwybod i fyfyrwyr am y gwasanaethau sydd ar gael yn eu prifysgol a'r gymuned a rhoi'r newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau CYSYLLTU a digwyddiadau yn y prifysgolion.

Meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr PCYDDS, Rhys Dart: “Mae PCYDDS yn falch bod gwefan prosiect partneriaeth CYSYLLTU wedi cael ei lansio. Mae mynd i'r afael â theimladau o ynysu ac unigrwydd yn bwysicach i'n myfyrwyr a'n staff nawr nag erioed. Rydym wedi cael ein calonogi gan ymateb ein gwirfoddolwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn mynd o nerth i nerth.”

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael yma.

Rhannu'r stori