Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol mewn cydnabyddiaeth o’i waith yn cefnogi Cymdeithas Cynghori a Thiwtora'r Deyrnas Unedig (UKAT).
Derbyniodd yr Athro Michael Draper o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, a Chyfarwyddwr Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS), y wobr Cyfraniad Eithriadol i UKAT yn ystod seremoni ar-lein ddydd Mercher 31 Mawrth.
Wedi'i sefydlu yn 2015, mae UKAT yn gymdeithas addysg uwch ar gyfer ymarferwyr proffesiynol ac ymchwilwyr sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar gynghori myfyrwyr a thiwtora personol o fewn y sector addysg uwch yn y DU. Fel ymddiriedolaeth elusennol, mae'n hyrwyddo llwyddiant myfyrwyr drwy wella’r maes cynghori a thiwtora myfyrwyr, ac mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys aelodau, sefydliadau addysg uwch, myfyrwyr a rhieni i wella cynghori academaidd a thiwtora personol myfyrwyr.
Dyfernir y wobr Cyfraniad Eithriadol yn flynyddol i unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol i gefnogi gwaith UKAT.
Mae'r Athro Draper wedi cefnogi UKAT ers blynyddoedd lawer, o helpu i ddatblygu a chefnogi eu proses gydnabod, i gymryd rhan mewn gweithgorau, ymddangos ar amryw baneli, ac eirioli dros UKAT ar bob cyfle.
Enwebwyd yr Athro Draper gan Brif Swyddog Gweithredol UKAT, Dr David Grey, a chytunodd eu pwyllgor gwobrwyo ar yr enwebiad, i gydnabod ei gyfraniad parhaus i hyrwyddo cenhadaeth UKAT.
Wrth dderbyn ei wobr, dywedodd yr Athro Draper: "Rwy'n ddiolchgar o gael fy enwebu am y wobr cyfraniad eithriadol hon gan Brif Weithredwr UKAT ac mae'n anrhydedd ei dderbyn yn eu cynhadledd ryngwladol flynyddol.
"Mae UKAT wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol cydweithwyr mewn addysg uwch i gefnogi llwyddiant myfyrwyr, sy'n cyd-fynd ag un o elfennau allweddol cenhadaeth dysgu ac addysgu Prifysgol Abertawe, a'r bartneriaeth waith rhwng myfyrwyr a staff yn y sefydliad hwn sydd wedi derbyn nifer o anrhydeddau eraill a chydnabyddiaeth allanol."