Mae gwarchod pobl dan fygythiad wedi bod yn ganolog i'r ymateb i Covid-19, ond a yw'n effeithiol? Bydd tîm ymchwil o Brifysgol Abertawe'n archwilio'r dystiolaeth i weld pa wersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Gan weithio gyda'r GIG, bydd yr ymchwilwyr, o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, yn ystyried effaith gwarchod ar nifer y bobl sydd wedi marw, sydd wedi cael eu derbyn i ysbytai ac unedau gofal dwys, ac sydd wedi cael eu heintio â Covid-19, yn ogystal â statws imiwnedd, diogelwch, costau i'r GIG, ansawdd bywyd ac i ba raddau y mae pobl wedi cydymffurfio â chyfarwyddiadau.
Gwarchodir y bobl y credir y byddent yn wynebu'r perygl mwyaf o gael niwed difrifol pe baent yn cael eu heintio â Covid-19, oherwydd cyflyrau isorweddol megis canser neu eu meddyginiaethau, er enghraifft.
Bydd y tîm yn archwilio'r sefyllfa yng Nghymru, ond gan fod y polisi gwarchod yn debyg ledled y DU, bydd y canfyddiadau'n berthnasol i wledydd eraill hefyd.
Yng Nghymru, mae'r cofnodion ar gyfer pobl a warchodir eisoes wedi cael eu cysylltu'n ddienw â systemau data integredig eraill.
Bydd aelodau'r tîm yn cyflwyno adroddiad yn fuan am gam cyntaf y gwaith ymchwil, a fydd yn disgrifio'r boblogaeth a warchodir, nifer y bobl a heintiwyd â Covid-19, a'r data presennol ynghylch imiwnedd.
Gyda rhagor o gyllid, byddant yn mynd ati i werthuso'r polisi'n llawn, gan archwilio cofnodion y GIG, ymatebion i holiaduron a chanlyniadau profion gwaed ar ôl 12 mis o warchod. Byddant yn cymharu pobl a warchodir â phobl debyg na chafodd eu dewis i gael eu gwarchod, a byddant yn canolbwyntio ar is-grwpiau megis unigolion sy'n dioddef o ganser, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a du a phobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig. Byddant hefyd yn cyfweld â phobl a warchodir a staff y GIG er mwyn trafod eu profiadau.
Arweinir y prosiect, sef EVITE Immunity, gan yr Athro Helen Snooks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Helen Snooks:
"Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a yw gwarchod pobl yn effeithiol. Bydd ein hastudiaeth yn ceisio dod o hyd i ateb, gan ddefnyddio'r data dienw a gedwir yma yn Abertawe yn SAIL Databank.
“A yw gwarchod wedi lleihau nifer y bobl sydd wedi cael eu heintio â Covid-19, nifer yr achosion o salwch difrifol a nifer y bobl sydd wedi marw? A gafwyd unrhyw effeithiau ar imiwnedd pobl, a fu canlyniadau niweidiol megis teimlo'n ynysig, yn orbryderus neu'n isel, ac a fu'n rhaid gohirio gofal am broblemau iechyd difrifol? Mae'n hanfodol gwybod yr atebion i'r cwestiynau hyn er mwyn i ni ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”
Mae EVITE Immunity wedi cael ei gomisiynu gan Brifysgol Birmingham ac mae'n cydweithredu â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Warwick, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu drwy raglen imiwnedd yr astudiaethau craidd cenedlaethol.