Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf erioed yn y DU.
Bydd yr ymgyrch, a gaiff ei lansio heddiw, yn cysylltu sefydliadau ym mhob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd a'r tu hwnt er mwyn atal bwyd rhag cael ei wastraffu a lleihau cyfraniad gwastraff bwyd at newid yn yr hinsawdd.
WRAP, elusen cynaliadwyedd fwyaf blaenllaw'r DU, sy'n trefnu'r wythnos llawn camau gweithredu a fydd yn hyrwyddo'r neges syml bod gwastraffu bwyd yn bwydo newid yn yr hinsawdd.
At ei gilydd, daw 6.6 miliwn o dunelli o wastraff bwyd o'n cartrefi bob blwyddyn yn y DU, gan gostio £14 biliwn. Mae'r gwastraff yn cynnwys 4.5 miliwn o dunelli o fwyd y gellid bod wedi cael ei fwyta, sef oddeutu wyth pryd o fwyd fesul aelwyd bob wythnos.
Gwnaeth Prifysgol Abertawe gynhyrchu 92 o dunelli o wastraff bwyd yn ystod cyfnod academaidd 2019/20, gan gynnwys 27 o dunelli a gynhyrchwyd yn ei neuaddau preswyl a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan.
Caiff yr holl wastraff bwyd hwn ei gasglu gan Veolia a'i brosesu drwy dreulio anaerobig i fod yn fio-nwy ac yn fio-wrtaith.
Meddai Pennaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, Dr Heidi Smith: “Mae lleihau swm y gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yn rhan allweddol o'n strategaeth ar gyfer cynaliadwyedd a'r argyfwng hinsawdd.
“Rydym yn gosod nodau rheoli gwastraff llym i ni ein hunain oherwydd ein bod bob amser am wella yn ogystal ag annog ein staff a'n myfyrwyr i helpu i wneud gwahaniaeth hefyd.
“Mae gennym i gyd ran i'w chwarae drwy atal bwyd a allai fod wedi cael ei fwyta rhag cyrraedd y bin.”
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o adnoddau ailgylchu ar draws ei champysau er mwyn sicrhau bod pawb yn gwaredu eu gwastraff, gan gynnwys gwastraff bwyd, yn gywir ac yn effeithlon.
Ychwanegodd Fiona Wheatley, y Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu: “Rydym yn deall bod angen cynyddu ymwybyddiaeth ein myfyrwyr a'n staff o bwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd a rhannu'r effaith y mae gwastraffu bwyd yn ei chael ar yr amgylchedd byd-eang ehangach.
“Dyna'r rheswm pam rydym yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd drwy ddefnyddio ein cyfryngau digidol rhyngweithiol niferus i gyfleu negeseuon craidd yr ymgyrch i fyfyrwyr a staff ledled ein cymuned er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.”
Drwy gydol yr wythnos, bydd y trefnwyr yn gofyn i aelodau'r cyhoedd ymateb i'r her o geisio lleihau eu gwastraff bwyd cartref cymaint ag y bo modd.
Er mwyn eu helpu, bydd WRAP a phartneriaid yr elusen yn rhannu awgrymiadau a thechnegau syml ar gyfer rheoli bwyd, gan ddefnyddio thema arbennig bob dydd – o storio bwyd a chynllunio dognau i ffyrdd creadigol o ddefnyddio gweddillion bwyd, a chamau ymarferol megis gosod tymheredd eich oergell yn gywir.
Meddai Marcus Gover, Prif Swyddog Gweithredol WRAP: “Mae gwastraffu bwyd yn un o achosion pennaf newid yn yr hinsawdd – mae'n cynhyrchu mwy o allyriadau nwyon tŷ gwydr na holl hediadau masnachol y byd.
"Rydym yn gwybod o'n gwaith ymchwil fod yr argyfwng newid yn yr hinsawdd yn bwysig i bobl, felly dyma rywbeth y gallwn fynd i'r afael ag ef – ac y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef – gyda'n gilydd. Dyma'r amser i ganolbwyntio ar arbed un o'n hadnoddau mwyaf amhrisiadwy yn hytrach na chynhyrchu nwyon tŷ gwydr drwy gynhyrchu bwyd na chaiff ei fwyta byth.
“Rwy'n falch o lansio Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf y DU. Gyda'n gilydd, byddwn yn ysbrydoli newid go iawn a fydd yn para.”