Ychwanegu arbenigedd newydd at dîm fferylliaeth y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu tri aelod newydd o staff wrth iddi barhau i baratoi i lansio ei rhaglen fferylliaeth gyntaf ym mis Medi. 

Bydd Sophie Croucher, Dr Rhian Thomas a Dr Suresh Mohankumar yn ymuno ag Ysgol Feddygaeth y Brifysgol wrth iddi baratoi i groesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i'w rhaglen MPharm pedair blynedd. Bydd hefyd yn lansio cwrs fferylliaeth gyda blwyddyn sylfaen.

Fel prif fferyllydd addysg a hyfforddiant yn Ysbyty Singleton yn Abertawe, mae gan Sophie Croucher brofiad helaeth o oruchwylio hyfforddiant fferyllwyr cyn iddynt gael eu cofrestru ac o gyflwyno darlithoedd i feddygon sy'n dilyn y rhaglen sylfaen ar adweithiau niweidiol i gyffuriau a chamgymeriadau rhagnodi.

Bydd hi'n ymuno â'r Brifysgol fel ymarferydd addysgu, gan gyflwyno thema fferylliaeth glinigol ac arwain lleoliadau gwaith, sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio'r hyn y maent yn ei ddysgu mewn lleoliadau ymarferol ym mhob rhan o broffesiwn fferylliaeth.

Meddai: “Fy nod o ddechrau fy ngyrfa fu cyfuno ymarfer clinigol ac addysg fferylliaeth. Bydd y swydd hon yn fy ngalluogi i helpu i lywio ac ysbrydoli fferyllwyr y dyfodol, a fu'n nod hirdymor i mi ers dechrau fy ngyrfa.”

Mae Dr Rhian Thomas, a fydd yn ymgymryd â swydd fel uwch-ddarlithydd, wedi addysgu ar amrywiaeth o raglenni i israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae hi'n arbenigo mewn ffisioleg a ffarmacoleg ac mae ganddi ddiddordeb mewn bioleg clefydau, yn enwedig clefyd Alzheimer.

Meddai: “Ar ôl addysgu yn y gorffennol ar raglen MPharm sefydledig, mae'n destun cyffro bod yn rhan o raglen gradd fferylliaeth newydd.

“Gan fy mod i'n hanu o dde Cymru, mae'n arbennig o gyffrous cael helpu i ddatblygu'r rhaglen hon mewn prifysgol yng Nghymru! Yn ôl pob golwg, bydd hon yn rhaglen flaengar iawn lle gallwn integreiddio'r disgyblaethau fferyllol gwahanol yn ein gwaith addysgu.”

Mae'r athro arobryn Dr Suresh Mohankumar wedi gweithio ym maes fferylliaeth o safbwynt addysg, ymchwil a gweinyddu ym mhedwar ban byd ers mwy na 18 mlynedd ac mae ei frwdfrydedd dros hyrwyddo a datblygu addysg ac ymchwil gwyddorau fferyllol yn parhau.

“Mae'r pandemig wedi atgyfnerthu'r ffaith bod rôl y fferyllydd yn hollbwysig ym maes gofal iechyd, felly mae cael y cyfle i addysgu fferyllwyr y genhedlaeth nesaf yn destun cyffro a balchder i mi.

“Mae'r posibiliadau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial at ddibenion gofal a gwyddorau fferyllol yn ddigynsail ac efallai y byddant yn cyfiawnhau mynd ati i drawsnewid addysg ac ymchwil ym maes fferylliaeth. Credaf ei bod hi'n hen bryd ystyried ffyrdd tebygol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac rwy'n gobeithio datblygu'r agwedd honno yma yn Abertawe.”

Meddai'r Athro Andrew Morris, Pennaeth Fferylliaeth: “Dyma gyfnod cyffrous iawn i ni. Rydym yn falch o atgyfnerthu ein staff addysgu a bydd dyfodiad ein cydweithwyr newydd yn ychwanegu at yr arbenigedd amrywiol rydym yn ei gynnig. Rydym hefyd yn falch iawn y byddwn yn gallu cynnig amgylchedd dysgu eithriadol i'n myfyrwyr drwy ein prosiect parhaus gwerth £2.1m i greu cyfleusterau fferylliaeth pwrpasol.”

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'n wych ein bod yn gallu croesawu newydd-ddyfodiaid mor brofiadol i'n tîm. Mae safon addysgu yn un o'r rhesymau pam y bydd ein rhaglen MPharm newydd yn rhan allweddol o'r broses o gyflwyno gofal fferyllol o'r radd flaenaf i bobl yng Nghymru.”

Mwy o wybodaeth am astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys manylion cofrestru ar gyfer diwrnod agored rhithwir

Rhannu'r stori