Mae biowyddonydd o Brifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn gwaith ymchwil sydd wedi taflu goleuni newydd ar effaith pobl ar fioamrywiaeth y Ddaear.
Mae'r darganfyddiadau diweddaraf yn awgrymu bod planhigion mewn ecosystem yn newid yn gyflymach yn ystod y blynyddoedd yn dilyn dyfodiad pobl. Mae'r newidiadau mwyaf trawiadol wedi digwydd mewn lleoliadau a anheddwyd yn ystod y 1,500 o flynyddoedd diwethaf.
Roedd Dr Cynthia Froyd, o'r Coleg Gwyddoniaeth, yn rhan o dîm ymchwil rhyngwladol a wnaeth astudio peilliau ffosiledig yn dyddio yn ôl 5,000 o flynyddoedd, a echdynnwyd o waddodion ar 27 o ynysoedd. Drwy ddadansoddi'r ffosiliau, llwyddodd y gwyddonwyr i feithrin dealltwriaeth o gyfansoddiad llystyfiant pob ynys a sut y'i newidiodd o'r peilliau hynaf i'r rhai diweddaraf.
Arweinwyr yr astudiaeth oedd Dr Sandra Nogué, o Brifysgol Southampton, a'r Athro Manuel Steinbauer, o Brifysgol Bayreuth yn yr Almaen a Phrifysgol Bergen yn Norwy.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae'r ynysoedd yn cynnig yr amgylchedd delfrydol i fesur effaith pobl gan y'u hanheddwyd yn ystod y 3,000 o flynyddoedd diwethaf pan oedd yr hinsoddau'n i debyg i'r hyn a geir heddiw. Mae gwybod pryd gwnaeth yr anheddwyr gyrraedd ynys yn golygu y gall gwyddonwyr astudio sut newidiodd cyfansoddiad ei hecosystem yn ystod y blynyddoedd cyn hynny ac ar ôl hynny.
Roedd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Science, yn dangos patrwm cyson ar 24 o'r ynysoedd lle newidiodd llystyfiant 11 o weithiau'n gyflymach o ganlyniad i ddyfodiad pobl, ar gyfartaledd. Cafwyd y newidiadau cyflymaf ar ynysoedd a anheddwyd ddiweddaraf – megis y Galápagos, a anheddwyd gyntaf yn yr 16eg ganrif. Roedd cyfraddau newid arafach ar ynysoedd lle cyrhaeddodd pobl fwy na 1,500 o flynyddoedd yn ôl, megis Caledonia Newydd a Ffiji.
Meddai Dr Nogué: “Gallai'r gwahaniaeth hwn o ran newid olygu bod yr ynysoedd a anheddwyd yn gynt yn fwy cydnerth yn wyneb dyfodiad pobl, ond mae'n fwy tebygol bod yr arferion defnyddio tir, y dechnoleg a'r rhywogaethau a gyflwynwyd gan yr anheddwyr diweddarach yn fwy trawsnewidiol nag eiddo'r anheddwyr cynharach.”
Arsylwyd ar y tueddiadau mewn amrywiaeth o leoliadau a hinsoddau ac roedd y canlyniadau ar gyfer ynysoedd megis Gwlad yr Iâ yn debyg i'r canlyniadau ar gyfer Tenerife ac ynysoedd trofannol a thymherus eraill.
Gall ecosystemau hefyd newid o ganlyniad i nifer o ffactorau naturiol megis daeargrynfeydd, ffrwydradau llosgfynyddoedd, tywydd eithafol a newidiadau yn lefel moroedd, ond mae'r ymchwilwyr wedi darganfod bod ymyrraeth pobl yn drech na'r holl ddigwyddiadau hyn a bod yn newid yn aml yn anghildroadwy.
Felly, maent yn cynghori bod yn rhaid i strategaethau cadwraeth ystyried effaith hirdymor pobl ac i ba raddau y mae newidiadau ecolegol heddiw yn wahanol i'r hyn a fu'n wir yn yr amser cyn dyfodiad pobl.