Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu'r ffaith bod cynllun rhannu beiciau Santander wedi cyrraedd carreg filltir 50,000 o deithiau. Mae'n profi bod y cynllun wedi mynd o nerth i nerth yn y ddinas ers iddo gael ei lansio yn 2018.
Mae'r cynllun cyfleus a fforddiadwy, a gynhelir ledled y ddinas gan y darparwr rhannu beiciau blaenllaw nextbike, ar y cyd â Santander a Phrifysgol Abertawe, wedi bod yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr, twristiaid a'r gymuned leol.
Lansiwyd y cynllun ym mis Gorffennaf 2018, yn dilyn ymgyrch cyllido torfol lwyddiannus mewn ymateb i Her Prifysgolion Beiciau Santander, drwy gymorth staff y Brifysgol, myfyrwyr, Cyngor Abertawe, busnesau lleol a'r gymuned, ac mae chwe man allweddol lle gellir llogi'r beiciau yn Abertawe. Er bod y cynllun wedi cael ei ohirio rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf y llynedd o ganlyniad i'r pandemig, mae beiciau Santander Abertawe'n profi'n fwy poblogaidd nag erioed, gyda 4,000 o achosion o'u llogi y mis diwethaf.
Meddai Ben Lucas, Cyfarwyddwr Cysylltiol Gwasanaethau Masnachol ym Mhrifysgol Abertawe: “Rwyf wrth fy modd bod y gymuned gyfan wedi parhau i gefnogi'r fenter teithio llesol wych hon. Mae nextbike wedi rhoi mesurau glanhau a gwirio ychwanegol ar waith er mwyn sicrhau, er gwaethaf y pandemig, fod y cynllun yn parhau i gynnig modd iach a diogel o deithio o gwmpas Abertawe i bobl, yn ogystal â ffordd wych o wneud ymarfer corff. Rwy'n annog pawb i barhau i ddefnyddio'r beiciau ac i helpu i ledaenu'r neges bod rhannu beiciau'n fuddiol.”
Meddai Krysia Solheim, Rheolwr Gyfarwyddwr nextbike: “Rydym mor hapus bod system beiciau Santander yn Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir 50,000 o deithiau. Mae hi bellach yn gynyddol amlwg bod y system fach hon wedi bod yn fodd i fyw i lawer o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rydym yn gobeithio parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chynyddu'r galw. Mae'r ffigurau ar gyfer mis Mawrth yn anhygoel ac mae'r llwyddiant wedi parhau ym mis Ebrill wrth i'r beiciau gael eu llogi 268 o weithiau, sef y cyfanswm mwyaf erioed, ar 2 Ebrill.”