Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n dangos bod damcaniaethau cynllwyn, drwgdybiaeth o'r llywodraeth a siambrau adlais ynghylch Covid-19 ymysg y ffactorau sy'n peri i bobl oedi cyn cael eu brechu.
Dyma fath penodol o betruster lle mae pobl yn rhagdybio y byddant yn cael eu brechu rywbryd o bosib ond maent yn oedi nes iddynt gael mwy o wybodaeth neu nes y bydd angen iddynt gael eu brechu, er enghraifft at ddibenion teithio.
Mae'r astudiaeth hefyd wedi gweld bod pasbortau brechu ymysg y ffactorau a allai ddylanwadu ar rai o'r bobl sy'n oedi cyn penderfynu a ddylent gael eu brechu.
Fe'i cyhoeddwyd ar MedRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (ceir mwy o wybodaeth isod).
Dyma ganfyddiadau'r gwaith ymchwil:
- Ar y cyfan, roedd ymdeimlad cadarnhaol tuag at frechlynnau. Fodd bynnag, yn ôl yr astudiaeth, roedd cyfran sylweddol (41%) o'r bobl a oedd yn cymryd rhan, gan gynnwys oedolion ifanc, yn ansicr o hyd ynghylch brechlynnau ac mae'n bosib eu bod yn oedi cyn penderfynu a ddylent gael eu brechu. Gall fod yn niweidiol i iechyd y cyhoedd os bydd pobl yn oedi cyn cael eu brechu;
- Mae'r pethau sy'n rhwystro pobl rhag mynd ati i gael eu brechu'n cynnwys: ffafrio “imiwnedd naturiol”; pryderon am sgil-effeithiau posib; drwgdybiaeth o'r llywodraeth; y rhagdybiaeth bod diffyg gwybodaeth ar gael am effeithiolrwydd a diogelwch brechlynnau; y damcaniaethau cynllwyn sy'n cael eu lledaenu, yn enwedig ymhlith cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; bodolaeth yr hyn a elwir yn siambrau adlais ynghylch Covid-19 – lle mae pobl sydd o'r un farn am frechlynnau Covid-19 yn tueddu i beidio â thrafod y sefyllfa gyda phobl a chanddynt farn wahanol;
- Roedd llawer o bobl yn credu bod pasbortau brechu'n debygol er nad oeddent yn anochel. Roedd rhai pobl a oedd yn betrusgar ynghylch cael eu brechu yn gweld pasbortau brechu fel rheswm pam y byddai angen iddynt gael eu brechu yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd pasbortau brechu'n bwnc llosg wrth i rai pobl eu gweld fel “anghyfleustra anorfod” ac eraill eu gweld fel “problem hawliau dynol”;
- Efallai nad oedd sail i'r pryderon blaenorol y byddai pobl yn orhyderus neu'n torri'r rheolau ar ôl cael eu brechu. Ymhlith y rhai a oedd eisoes wedi cael eu brechu unwaith neu ddwywaith, prin oedd y bobl a ddywedodd fod eu hymddygiad tuag at iechyd, megis gwisgo masg a chadw pellter cymdeithasol, wedi newid.
Arweinir yr astudiaeth Barn y cyhoedd yn ystod y pandemig gan Dr Simon Williams a Dr Kimberly Dienes o Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â'r Athro Christopher Armitage o Brifysgol Manceinion a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae'r ymchwilwyr wedi bod wrthi'n cynnal grwpiau ffocws ac arolygon ar-lein gyda phobl o bob cwr o'r DU drwy gydol pandemig Covid-19 er mwyn ystyried eu safbwyntiau a'u profiadau.
Meddai Dr Williams: “Mae pobl wedi cael eu brechu yn y DU ar gyflymder ac i raddau anhygoel. Fodd bynnag, er bod llawer o bobl, gan gynnwys oedolion ifanc, yn teimlo'n gadarnhaol am gael eu brechu, mae cyfran sylweddol yn dal i fod yn ansicr ac yn teimlo bod angen mwy o amser arnynt i wneud penderfyniad.
“Gyda'r pryder am yr amrywiolyn o India, mae pa mor gyflym y mae pobl yn gwneud y penderfyniad i gael eu brechu, ynghyd â nifer y bobl sy'n cael eu brechu yn y pen draw, o bwys mawr.”
Ychwanegodd Dr Dienes: “Mae rhai pobl wedi cyfaddef eu bod yn oedi cyn penderfynu a ddylent gael eu brechu nes y byddai'n ‘rheidrwydd’. Roedd y bobl hyn yn gweld pasbortau brechu fel rhywbeth a fyddai'n dylanwadu'n anochel ar eu penderfyniad. Roedd rhai o'r farn bod pasbortau'n anghyfleustra anorfod ond roedd eraill o'r farn eu bod yn arwydd bod gweithgaredd yn ddiogel.
“Dylai'r rhai sy'n llunio polisïau gydnabod bod pryderon pobl a'u hawydd i oedi yn ddilys, a mynd ati i ddeall agwedd y bobl hyn a'i lleihau drwy dawelu eu meddyliau a chyfathrebu â hwy.”
Meddai Dr Williams: “Rhoddwyd llawer o sylw i'r mudiad sy'n gwrthwynebu brechlynnau, ond mae'n debygol bod hwn yn cynnwys nifer bach iawn o'r boblogaeth gyfan. Mae'r nifer mwy o bobl sy'n oedi cyn penderfynu, gan eu bod am aros a gweld yr hyn a ddigwydd o ran y brechlynnau, yn bwysicach i iechyd y cyhoedd.
“Fodd bynnag, gellid dadlau bod lledaeniad yr amrywiolion newydd yn golygu, yn ôl pob tebyg, y bydd angen i gyfran fwy o'r boblogaeth gael ei brechu, a hynny'n gyflymach. Felly, os bydd pobl yn oedi cyn cael eu brechu, gall fod yn niweidiol iawn.”
**Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig.**