Mae gwyddonydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n bennaeth pwyllgor cynghori allweddol gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU.
Mae Gareth Jenkins, sy'n athro Carsinogenesis Moleciwlaidd yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, newydd ddechrau ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Nwyddau Defnyddwyr a'r Amgylchedd (COM).
Mae'r corff yn adrodd i Public Health England a'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn cynghori Llywodraeth y DU ar faterion diogelwch a phryderon am iechyd pobl.
Mae rôl y pwyllgor o gyflwyno gwybodaeth am egwyddorion cyffredinol pwysig darganfyddiadau gwyddonol newydd mewn cysylltiad â pheryglon mwtagenig a genotocsig a risgiau yn debygol o fod yn bwysicach byth yn y dyfodol gan y bydd cyfarwyddyd y pwyllgor yn disodli'r cyngor a roddwyd yn flaenorol gan sefydliadau Ewropeaidd cyfatebol.
Meddai'r Athro Jenkins: “Rwy'n hynod falch o dderbyn y rôl fel Cadeirydd COM. Ar ôl bod yn aelod o COM rhwng 2009 a 2019, rwy'n deall pwysigrwydd y gwaith sy'n cael ei wneud.
“Rwy'n benderfynol o ddilyn y safonau ardderchog a osodwyd gan y cadeiryddion blaenorol ac mae heriau'r sefyllfa reoliadol newidiol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn destun cyffro.”
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Meddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae'r penodiad hwn yn adlewyrchu arbenigedd Gareth yn y maes hwn, a pha mor uchel ei fri y mae yng ngweddill y DU yn ogystal ag yng Nghymru.
“Rydym wrth ein boddau y bydd ei fewnbwn yn ddylanwadol wrth helpu i lywio polisïau a meithrin dealltwriaeth yn y dyfodol mewn maes mor bwysig.”