Carys Worsley, a wnaeth arwain y gwaith ymchwil fel rhan o'i doethuriaeth

Carys Worsley, a wnaeth arwain y gwaith ymchwil fel rhan o'i doethuriaeth

Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod ffordd o greu technoleg solar y genhedlaeth nesaf heb y toddyddion gwenwynig ac anghynaliadwy y mae eu hangen ar hyn o bryd.

Y gred yw y bydd celloedd solar perofsgit carbon wedi'u hargraffu yn debygol o fod ar flaen y gad yn y farchnad oherwydd eu bod yn hynod effeithlon wrth drawsnewid golau yn drydan yn ogystal â bod yn rhad ac yn hawdd eu creu.

Un rhwystr mawr i'r gwaith o weithgynhyrchu'r celloedd hyn ar raddfa fawr a'u masnacheiddio yw'r toddyddion a ddefnyddir i reoli'r broses o grisialu'r perofsgit. Y rheswm yw y defnyddir deunyddiau anghynaliadwy i greu'r toddyddion ac fe'u gwaherddir mewn llawer o wledydd oherwydd eu gwenwyndra a'u heffeithiau seicoweithredol.

Mae ymchwilwyr SPECIFIC wedi darganfod y gallai toddydd bioddiraddadwy diwenwyn o'r enw γ-Valerolactone (GVL) ddisodli'r toddyddion hyn heb effeithio ar berfformiad y celloedd.

Gallai manteision niferus GVL wella dichonoldeb ariannol dyfeisiau solar perofsgit carbon:

  • · Mae'n cael ei greu o borthiannau cynaliadwy
  • · Gellir ei ddefnyddio ledled y byd heb unrhyw broblemau cyfreithiol
  • · Mae'n addas i'w ddefnyddio mewn prosesau gweithgynhyrchu mawr
  • · Mae'n ddiwenwyn ac yn fioddiraddadwy

Meddai Carys Worsley, a wnaeth arwain y gwaith ymchwil fel rhan o'i doethuriaeth:

“Er mwyn bod yn wirioneddol amgylcheddol gynaliadwy, rhaid i gelloedd solar gael eu creu mewn modd mor wyrdd â'r ynni y maent yn ei gynhyrchu. Wrth i dechnolegau solar y genhedlaeth nesaf ddynesu at fod yn fasnachol ddichonol, bydd pwysigrwydd ymchwil i leihau effaith amgylcheddol eu cynhyrchu ar raddfa fawr yn cynyddu.”

Ychwanegodd yr Athro Trystan Watson, arweinydd y grŵp ymchwil:

“Mae angen datrys llawer o broblemau cyn y bydd y technolegau hyn yn fasnachol. Roedd problem y toddyddion yn rhwystr mawr, gan gyfyngu ar y broses o gynhyrchu'r technolegau ar raddfa fawr yn ogystal ag atal ymchwil mewn gwledydd lle gwaherddir y toddyddion.

Rydym yn gobeithio y bydd ein darganfyddiad yn galluogi gwledydd nad oedd modd iddynt gymryd rhan yn yr ymchwil hon yn y gorffennol i fod yn rhan o'r gymuned a sbarduno'r broses o ddatblygu ynni mwy glân a gwyrdd.”

Roedd y gwaith ymchwil yn bosib oherwydd cyllid prosiect SUNRISE Cronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU), a chyllid y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, Innovate UK a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, i ariannu Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.

Fe'i cyhoeddwyd yn Energy Technology.

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - Ymchwil Abertawe 

Rhannu'r stori