Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi darganfod bod rhai masgiau wyneb untro yn rhyddhau llygryddion cemegol a allai fod yn beryglus pan fyddant mewn dŵr.
Mae'r ymchwil, sy'n cael ei chefnogi gan y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT) a Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, yn datgelu bod lefel uchel o lygryddion, gan gynnwys plwm, antimoni a chopr, yn ffibrau silicon a phlastig masgiau wyneb untro cyffredin.
Meddai arweinydd y prosiect, Dr Sarper Sarp:
"Mae’n rhaid i bob un ohonon barhau i wisgo masgiau gan eu bod yn hanfodol yn y gwaith o roi terfyn ar y pandemig. Ond hefyd mae dybryd angen gwneud rhagor o ymchwil a rheoleiddio ym maes cynhyrchu masgiau fel y gallwn ni leihau’r risgiau i'r amgylchedd ac iechyd pobl."
Wrth gynnal y profion, a amlinellwyd mewn papur diweddar, gwnaeth y tîm ymchwil ddefnyddio amrywiaeth o fasgiau – o rai plaen arferol i fasgiau arbennig a Nadoligaidd i blant. Mae llawer o'r rhain yn cael eu gwerthu ar hyn o bryd gan fanwerthwyr yn y DU.
Mae'r cynnydd yn nifer y masgiau untro, a'r gwastraff cysylltiedig, o ganlyniad i bandemig Covid-19 wedi cael ei nodi fel achos newydd llygredd. Roedd yr astudiaeth am archwilio'r cysylltiad uniongyrchol hwn – gan gynnal ymchwiliadau i nodi lefel y sylweddau gwenwynig.
Mae'r canfyddiadau'n datgelu lefel sylweddol o lygryddion ym mhob un o'r masgiau a brofwyd. Cafodd gronynnau micro/nano a metelau trwm eu rhyddhau yn y dŵr yn ystod pob un o'r profion. Mae’r ymchwilwyr yn credu y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac maent hefyd yn gofyn a fydd niwed i iechyd y cyhoedd – gan rybuddio y gallai dod i gysylltiad â'r sylweddau'n rheolaidd fod yn beryglus gan fod cysylltiadau hysbys rhyngddynt a marwolaeth celloedd, gwenwyndra genomig a datblygu canser.
I fynd i'r afael â hyn, mae'r tîm yn cynghori y dylid ymchwilio ymhellach a rhoi rheoliadau dilynol ar waith yn y broses cynhyrchu a phrofi.
Meddai arweinydd y prosiect, Dr Sarper Sarp:
"Mae oddeutu 200 miliwn o fasgiau wyneb plastig untro yn cael eu cynhyrchu bob dydd yn Tsieina yn unig, mewn ymdrech fyd-eang i atal y feirws newydd, sef SARS-CoV-2, rhag lledaenu. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y masgiau hyn yn cael eu gwaredu mewn modd amhriodol ac anrheoleiddiedig eisoes yn achosi llygredd plastig a bydd y broblem hon yn parhau i waethygu.
Mae digon o dystiolaeth i beri gofid y gallai masgiau wyneb plastig gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd drwy ryddhau llygryddion wrth iddynt ddod i gysylltiad â dŵr. Mae gan lawer o'r llygryddion gwenwynig y daethpwyd o hyd iddynt yn ein gwaith ymchwil elfennau biogronnol pan gânt eu rhyddhau i'r amgylchedd ac mae ein canfyddiadau'n dangos y gallai masgiau wyneb plastig fod yn un o brif ffynonellau'r halogion amgylcheddol hyn yn ystod ac ar ôl pandemig Covid-19.
Felly, mae'n hanfodol bod angen gorfodi rheoliadau mwy llym yn ystod y broses o gynhyrchu a gwaredu neu ailgylchu masgiau wyneb plastig er mwyn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.
Yn ogystal, mae angen deall effaith trwytholchi gronynnau yn y modd hwn ar iechyd y cyhoedd. Un o'r prif bryderon o ran y gronynnau hyn yw y daethant i ffwrdd o'r masgiau wyneb yn hawdd cyn trwytholchi yn y dŵr heb gynnwrf, sy'n awgrymu bod y gronynnau hyn yn fecanyddol ansefydlog ac yn barod iawn i gael eu datgysylltu.
Felly, mae angen cynnal ymchwiliad llawn i fesur graddau ac effeithiau posib trwytholchi'r gronynnau hyn i'r amgylchedd, a'r lefelau sy'n cael eu mewnanadlu gan ddefnyddwyr wrth iddynt anadlu'n arferol. Dyma bryder sylweddol, yn enwedig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gweithwyr allweddol a phlant sy'n gorfod gwisgo masgiau am ran helaeth o'r dydd yn y gwaith neu'r ysgol."
Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys yr Athro Trystan Watson, Dr Javier Delgado Gallardo a Dr Geraint Sullivan. Ariennir gweithrediad IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.
Dyfodol cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - Ymchwil Abertawe