Bydd Jordan Morris, pêl-droediwr rhyngwladol o'r Unol Daleithiau a fu gynt yn un o sêr clwb Dinas Abertawe, yn ymuno â Phrifysgol Abertawe i drafod sut mae'n cydbwyso gyrfa ar y brig ym maes chwaraeon â gofynion diabetes math 1.
Ef fydd y gwestai arbennig mewn gweminar a gyflwynir gan arbenigwyr gwyddorau chwaraeon y Brifysgol a fydd yn rhannu sut mae Jordan wedi goresgyn yr her o fyw gyda diabetes, yn ogystal â cheisio ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein am ddim, a gefnogir gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, am 6pm nos Iau, 1 Gorffennaf ac mae'n agored i unrhyw un.
Deiliad Cadair mewn Ffisioleg Ymarfer Corff sy'n gweithio'n agos gydag elusennau a sefydliadau ymchwil diabetes yw'r Athro Richard Bracken, a fydd yn arwain y weminar. Drwy gyfrwng ei astudiaethau, mae ef wedi gwneud gwaith ymchwil gydag arwyr o fyd y campau megis Team Novo Nordisk, yr unig dîm beicio proffesiynol yn y byd sy'n llawn beicwyr â diabetes math 1.
Mae'r Brifysgol ar flaen y gad o ran ymchwilio i faes diabetes, yn ogystal â bod yn gartref i Uned Ymchwil Diabetes Cymru, sy'n uchel ei bri.
Meddai'r Athro Bracken: “Dyma gyfle gwirioneddol unigryw i ni holi rhywun o statws Jordan ym myd chwaraeon am fyw gyda diabetes math 1. O safbwynt gwyddonol, gallwn ddeall yr heriau sy'n gysylltiedig â hynny, ond dim ond rhywun sydd wedi gorfod byw gyda gofynion diabetes sy'n gallu cynnig esboniad go iawn.
“Rydym yn falch ei fod wedi cytuno i ymuno â ni ac i siarad yn agored am ei gyflwr. Bydd ei ddealltwriaeth a'i brofiad yn ysbrydoli pobl o bob oedran beth bynnag yw lefel eu ffitrwydd – hyd yn oed os nad ydynt yn byw gyda diabetes.”
Yn ystod y digwyddiad, bydd Jordan yn cael ei holi am bynciau megis rôl deiet a thechnoleg, yn ogystal â baich diabetes ar iechyd meddwl rhywun ym myd y campau ac effaith Covid-19 ar chwaraeon proffesiynol.
Bydd ef hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb dan arweiniad un o gydweithwyr yr Athro Bracken, Dr Olivia McCarthy, y myfyriwr PhD Jason Pitt a Molly Smallman, sy'n astudio am MSc.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i glywed am yrfa Jordan, sy'n 26 oed, ar y maes chwarae, yn ogystal â'i gyfnod yn Stadiwm Liberty. Gwnaeth chwarae bump o weithiau i'r Elyrch cyn dioddef anaf i'w ACL.
Wrth iddo wella o'i anaf, bydd y pêl-droediwr yn siarad yn fyw o'i gartref yn Seattle lle mae'n cynnal Ymddiriedolaeth Jordan Morris. Sefydlodd yr ymddiriedolaeth hon er mwyn addysgu, ysbrydoli a chefnogi plant sy'n byw gyda diabetes math 1.
Meddai Jordan, a gafodd ei ddiagnosis yn naw oed: “Un o'm nodau yw sicrhau nad yw plant yn teimlo cywilydd oherwydd eu bod yn byw gyda diabetes. Yn wir, dylent ymfalchïo ynddo!
“Rwyf am eu helpu i ddysgu os byddwch yn gweithio'n galed ac yn dangos ymroddiad na fydd y clefyd hwn yn eich atal rhag gwneud yr hyn rydych am ei wneud ac y bydd pethau'n gwella dros amser.
“Mae digwyddiadau fel yr un hwn yn bwysig iawn, felly rwy'n hynod falch o gael cyfle i gymryd rhan a rhannu'r neges honno.”
Cofrestrwch i gymryd rhan yn y weminar nawr