Mae awdur i blant, enillydd cyntaf Gwobr Awduron Ifanc y BBC, ac enillydd blaenorol Gwobr Ryngwladol Colm Tóibín ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021.
Mae’r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion Saesneg gorau sydd heb eu cyhoeddi, mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc, hyd at 5,000 o eiriau gan awduron 18 oed neu’n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am ddwy flynedd neu fwy, neu sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn 1991, ac mae wyth Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies wedi’u cynnal hyd yma. Ail-lansiwyd cystadleuaeth 2021 gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies ac mewn cydweithrediad â Parthian Books.
Y Rhestr Fer:
- A Cloud of Starlings - Philippa Holloway
- Bird - Jupiter Jones
- Coat of Arms - Craig Hawes
- Half Moon, New Year - Joshua Jones
- Juice - Rosie Manning
- James, In During - Elizabeth Pratt
- Dogs in a Storm - Brennig Davies
- Cure Time - Giancarlo Gemin
- The Truth is a Dangerous Landscape - Susmita Bhattacharya
- Take a Bite - Naomi Paulus
- Y Castell - Chloe Heuch
- Conditions for an Avalanche - Kate Lockwood Jefford
Bydd yr enillydd yn cael gwobr o £1,000 a bydd eu stori fer yn cael ei chynnwys yng Nghyfrol Gwobr Stori Fer Rhys Davies 2021, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Parthian Books ym mis Hydref. Bydd stori pob un o’r awduron ar y rhestr fer hefyd yn cael eu cynnwys yn y gyfrol, a byddan nhw’n cael £100 yr un.
Meddai’r beirniad gwadd Julia Bell, awdur a Darllenydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain: “Doedd hi ddim yn hawdd dewis deuddeg stori o blith detholiad mor gryf, ond mae’r darnau yma i gyd yn enghreifftiau ardderchog o ffurf y stori fer, gyda phynciau sy’n ystyried y cyfnod clo, rhywioldeb, galar, teuluoedd problemus, a hyd yn oed taith i’r dafarn – oll wedi’u hysgrifennu mewn cymysgedd o arddulliau, ond o fewn peiriant bach y stori fer yr oedd Rhys Davies yn arbenigo ynddo. Rwy’n edrych ymlaen at weld y darnau yma’n cyrraedd darllenwyr yn ehangach, a chael datgelu’r enillydd maes o law.”
Ganwyd Rhys Davies ym Mlaenclydach yn y Rhondda ym 1901, ac roedd yn un o’r awduron rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog, a medrus yng Nghymru. Ysgrifennodd dros 100 o straeon, 20 nofel, tair nofela, dau lyfr topograffig am Gymru, dwy ddrama, a hunangofiant.
Meddai Richard Davies o Parthian Books: “Gwobr Stori Fer Rhys Davies yw’r wobr fawr am ysgrifennu straeon byrion yng Nghymru. O Leonora Brito i Tristan Hughes i Kate Hamer, mae’r enillwyr bob amser yn awduron o’r safon uchaf, a bydd yn anrhydedd cael cyhoeddi gwaith y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol mewn cyfrol arbennig sy’n benodol i’r Gystadleuaeth yma.”
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 30 Medi 2021.
Ynglŷn â’r awduron:
Cyrhaeddodd nofel gyntaf Susmita Bhattacharya, The Normal State of Mind (Parthian, 2015) y rhestr hir ar gyfer Gwobr Word2Screen yng Ngŵyl Ffilmiau Mumbai, 2018. Enillodd ei chasgliad o straeon byrion, Table Manners (Dahlia Publishing, 2018) Wobr Saboteur am y Casgliad Gorau o Straeon Byrion (2019) ac mae wedi’i chynnwys ar BBC Radio 4. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerdydd, ac mae’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caer-wynt. Mae hi hefyd yn hwyluso rhaglen Awduron Ifanc Mayflower ArtfulScribe yn Southampton. Mae Susmita yn byw yng Nghaer-wynt.
Awdur o Fro Morgannwg yw Brennig Davies. Cwblhaodd ei radd BA mewn Saesneg yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, yn ddiweddar, ac enillodd ei waith gystadleuaeth gyntaf Gwobr Awduron Ifanc BBC yn 2015, a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2019. Mae ei waith hefyd wedi’i gyhoeddi yn yr Oxford Review of Books, Mays Anthology XXIX, ac antholeg Kate Clanchy Friend: poems by young people (Picador, 2021).
Ganwyd Giancarlo Gemin yng Nghaerdydd ym 1962 i rieni o’r Eidal. Mae wedi ysgrifennu dau lyfr i blant, Cowgirl, a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2015 ac a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Waterstones, a Sweet Pizza, a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Ffuglen i Blant y Guardian yn 2016 ac a enillodd wobr Tir na n-Og yn 2017. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei nofel gyntaf i oedolion am lyfrgell yng Nghymru yn ystod blynyddoedd llymder.
Cyn-newyddiadurwr o Lansawel sydd bellach yn ysgrifennwr copi yw Craig Hawes, a fu’n gweithio yn Llundain a Dubai am flynyddoedd lawer cyn dychwelyd i dde Cymru. Cyhoeddwyd ei gasgliad o straeon byrion, The Witch Doctor of Umm Suqeim, yn 2013 gan Parthian Books ac mae ei ddramâu a’i straeon wedi’u darlledu ar BBC Radio 4. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Stori Fer Rhys Davies yn 2010.
Ganwyd Chloë Heuch yn Taunton ac mae’n byw ger Pwllheli ar arfordir y gogledd gyda’i theulu. Mae ganddi radd BA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Caerhirfryn, ac mae’n aelod o SCBWI a SoA. Ar hyn o bryd mae’n rhannu ei hamser rhwng ei phlant, ei gwaith ysgrifennu, ac addysgu pobl ifanc. Mae ei cherddi a’i straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi yn y gorffennol, a’r diweddaraf drwy wasg Honno. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Too Dark to See, yn 2020 drwy Wasg Firefly.
Awdur ac academydd yw Philippa Holloway, ac er ei bod yn byw yn Swydd Gaerhirfryn ar hyn o bryd, mae ei chalon yn dal i fod gartref yng Nghymru. Mae ei ffuglen fer wedi’i chyhoeddi ar bedwar cyfandir, a bwriedir i’w nofel gyntaf, The Half-life of Snails, gael ei chyhoeddi gyda Parthian Books yng ngwanwyn 2022. Roedd hi’n gyd-olygydd ar y casgliad 100 Words of Solitude: Global Voices in Lockdown 2020 (Gwasg Rare Swan).
Awdur a bardd queer ac awtistig o Lanelli yw Joshua Jones. Mae ganddo radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa, lle bu’n gweithio ar ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, ac mae bellach yn astudio i ddod yn athro ysgol ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae hefyd yn hoff o baentio a gwneud gludwaith, ac mae’n rhyddhau barddoniaeth gyda cherddoriaeth o dan yr enw Human Head. Mae hefyd yn ysgrifennu am gerddoriaeth ar gyfer cylchgrawn NAWR.
Magwyd Jupiter Jones ar arfordiroedd Cumberland a Swydd Gaerhirfryn yng ngogledd-orllewin Lloegr. Roedd y cyntaf yn wyllt ac yn gyfrinachol, a’r ail yn sothachlyd a blinedig; ond roedd hi wrth ei bodd â’r ddau le, ac maen nhw’n gadael eu hôl ar ei hysgrifennu. Ar ôl cyfnod byr yn Llundain i wneud PhD ar Embaras y Gwyliwr yn Goldsmiths, mae hi bellach yn byw yng Nghymru ac yn ysgrifennu ffuglen fer a fflach. Mae wedi ennill Gwobr Ryngwladol Colm Tóibín, ac mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan Ad Hoc, Aesthetica, Brittle Star, Fish, Gwasg Reflex, Ymddiriedolaeth Celfyddydau’r Alban, ac mae wedi’i wrthod gan lawer un arall.
Cafodd Kate Lockwood Jefford ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Fe hyfforddodd fel seiciatrydd a seicotherapydd, ac bu’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd – ochr yn ochr â chyfnodau yn ysgrifennu ac yn perfformio comedi – cyn gwneud MA mewn ysgrifennu creadigol yn Birkbeck. Mae ei ffuglen fer yn ymddangos mewn llawer o gyhoeddiadau, gan gynnwys Mechanics’ Institute Review ar-lein, Antholeg Gwobr Bryste 2017, Antholeg Gwobr Brick Lane Bookshop 2020 ac Antholeg Gwobr Fish Publishing 2021. Enillodd ei stori fer, Picasso’s Face, Wobr VS Pritchett yn 2020. Mae hi’n byw yn Llundain a Folkestone ar hyn o bryd, ond mae hi’n dal i dreulio llawer o’i hamser yn ne Cymru, boed hynny’n gorfforol neu’n feddyliol. Mae’n gweithio ar ei chasgliad cyntaf o straeon ar hyn o bryd.
Magwyd Rosie Manning yn Sir Benfro, a threuliodd ei phlentyndod yn obsesiynu dros lyfrau a chael gweld gweddill y byd. Gadawodd yn 18 oed, a threuliodd ddegawd yn teithio, astudio, gweithio, a theithio mwy tan i arfordir y gorllewin ei denu’n ôl gartref. Fe raddiodd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth o Brifysgol Sussex, ac fe gwblhaodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, gyda Rhagoriaeth, o’r Brifysgol Agored yn ddiweddar. Mae Rosie bellach yn gweithio yn ei llyfrgell leol, ac yn ysgrifennu ei nofel gyntaf a chasgliad o straeon byrion. Juice yw ei chyhoeddiad cyntaf.
Cafodd Naomi Paulus ei geni, a phrofi’r rhan fwyaf o’i phrofiadau ffurfiannol, yn Abertawe. Graddiodd mewn Athroniaeth o Brifysgol Caergrawnt, ac yna treuliodd flwyddyn yn Ysgol Fusnes Judge Caergrawnt yn dysgu sgiliau ymarferol. Yn 30 oed, penderfynodd ddechrau nodi ei meddyliau i lawr, yn hytrach na meddwl amdanyn nhw’n unig. Mae hi wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Primadonna ddwywaith, ac enillodd eu cystadleuaeth ffuglen fflach yn 2020. Mae’n rhedeg asiantaeth ddigidol yn Llundain yn ei hamser hamdden.
Americanes wedi’i thrawsblannu yw Elizabeth Pratt a fwriodd ei gwreiddiau ym Mhrydain yn ôl yn ystod y nawdegau penrhydd. Mae’n byw’n hapus yng ngorllewin Cymru gyda’i phartner, ychydig o gathod, a gardd lysiau anniben. Mae’n hoff o ysgrifennu straeon byrion a ffuglen fflach o bob genre, ond mae hi hefyd wedi bod yn gweithio’n galed ar ei nofel gyntaf. Enillodd Gystadleuaeth Straeon Byrion H.E. Bates yn 2018, a Chystadleuaeth Stori Fer Gŵyl Ffraw yn 2020. Mae hi hefyd yn ysgrifennu dan yr enw Elizabeth Ardith Aylward.