Mae asffalt cymysgedd cynnes (WMA) wrthi'n denu sylw yn y diwydiant asffalt fel technoleg eco-gyfeillgar a chynaliadwy.
Mae WMA yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir wrth leihau ar yr un pryd anweddau a nwyon tŷ gwydr yn ystod y broses o greu cymysgeddau asffalt o'i gymharu ag asffalt confensiynol. Fodd bynnag, mae asffalt yn agored i effeithiau lleithder uchel a heneiddio sy'n gwneud WMA yn llai gwydn ar y ffyrdd.
Er mwyn mynd i'r afael â'r ddwy broblem hon ym maes technoleg WMA, mae tîm o'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a Braunschweig Pavement Engineering Centre (ISBS) ym Mhrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi darganfod potensial i nanoronynnau silica mygedig (FSNs) gael eu defnyddio fel rhwymwr gwrth-heneiddio sy’n gallu lleihau tymheredd a llwyddo'n sylweddol i oresgyn cyfyngiadau a achosir yn sgîl bod yn agored i leithder.
Meddai'r prif ymchwilydd Goshtasp Cheraghian: "Mae'r ymchwil a gyflwynwyd yn ymdrin â'r bylchau sy'n bodoli mewn technoleg WMA. Mae FSNs ag arwynebedd mawr yn opsiwn delfrydol fel deunyddiau cost-effeithiol a diwenwyn sy'n gallu effeithio’n sylweddol ar warchod asffalt mewn technoleg WMA. Yn ogystal, mae ein canfyddiadau ynghylch y cysyniad o'r rhyngweithiad moleciwlaidd rhwng nanoronynnau a rhwymwyr asffalt yn gallu agor llwybrau newydd ar gyfer defnyddio nanodechnoleg mewn peirianneg asffalt."
Meddai Sajad Kiani: "Mae'n bosib ryw ddydd y caiff y nanoronnynau arwynebedd uchel hyn eu defnyddio yn yr asffalt ac felly y bydd modd adeiladu ffyrdd sy'n para'n hirach drwy leihau allyriadau sy'n gysylltiedig ag asffalt (VOC a CO2) mewn amodau byd go iawn."
Meddai'r Athro Andrew Barron, Sefydlwr a Chyfarwyddwr yr ESRI a Chadeirydd Sêr Cymru mewn Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Abertawe: "Un o brif amcanion yr ESRI yw lleihau ynni ac adnoddau ac mae hyn yn hollbwysig i'r byd diwydiant wrth iddo symud tuag at Sero Net."
Gellir darllen yr erthygl yng nghyfnodolyn Scientific Reports – Nature.