Logos yr Elyrch a Phrifysgol Abertawe

Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i noddi blaen crysau clwb pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2021-22.

Rhoddir logo’r Brifysgol ar flaen crysau cartref ac oddi cartref newydd y tîm cyntaf drwy gydol yr ymgyrch i ddod yn y Bencampwriaeth.

Bydd y logo hefyd i’w weld ar grysau cartref ac oddi cartref tîm dan-23 oed a thîm menywod y clwb.

Bydd parhad y bartneriaeth yn galluogi cefnogwyr ifanc i wisgo'r un crys â chwaraewyr yr Elyrch sy’n arwyr iddynt, a hynny am yr ail dymor yn olynol.

Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cadw ei statws fel unig Bartner Addysg Uwch y clwb.

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y clwb yn ystod 2020-2021, sy'n destun balchder mawr i ni, rydym wrth ein boddau i barhau i noddi blaen crysau Dinas Abertawe y tymor nesaf.

“Mae ein cytundeb noddi o fudd mawr i Brifysgol Abertawe wrth i ni geisio recriwtio myfyrwyr, ac mae hefyd yn ymestyn i'r chwaraeon o'r radd flaenaf a gynigir gennym, gan roi cymorth i fyfyrwyr a'r ardal leol.

“Hoffem ddiolch i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe am barhau i'n cefnogi ac rydym yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus arall yn ystod 2021-2022.”

Bydd y Brifysgol hefyd yn parhau i noddi Eisteddle'r Gorllewin yn y stadiwm, yn ogystal ag arddangos ei brand yn ystod gemau ar SwansTV Live a gaiff eu ffrydio i gefnogwyr y clwb, yn rhyngwladol ac yn y DU.

Meddai Pennaeth Masnachol Dinas Abertawe, Rebecca Edwards-Symmons: “Rydym yn falch y bydd y berthynas agos rhyngom a Phrifysgol Abertawe’n parhau, gan adeiladu ar 12 mis gwych o gydweithio'n agos.

“Dyma bartneriaeth sy'n cynrychioli ein clwb a'n dinas. Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, nid oedd brand gamblo ar flaen ein crysau y tymor diwethaf, ac roedd hyn yn cael ei groesawu gan ein cefnogwyr ac yn galluogi'r rhai ifanc i wisgo'r un crysau â'u hoff chwaraewyr.

“Nid oes dim byd gwell i ni fel clwb na meithrin cysylltiadau â brandiau lleol, clodwiw ac rydym yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus iawn i ddod.”

Caiff crysau cartref ac oddi cartref newydd yr Elyrch ar gyfer 2021-22 eu rhyddhau maes o law.  

Rhannu'r stori