Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o ymchwil sy’n ymwneud â Covid-19 yn ogystal â'r pwyslais pwysig ar frechlynnau.
Mae Ysgol Feddygaeth y Brifysgol yn gartref i'r Ganolfan Bioamrywiaeth Cytocrom P450 a BEACON, canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n werth miliynau o bunnoedd. Mae'r ddwy ganolfan ar flaen y gad o ran defnyddio gwybodaeth am facteria a ffyngau i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau i iechyd, gan integreiddio dulliau gweithredu mewn nodau ymchwil gwyrdd.
Meddai'r Athro Steven Kelly: “Rydym wedi bod wrthi'n adolygu ein gwaith ymchwil yn sgil y pandemig. Gan arbenigo mewn astudiaethau microbaidd, roeddem yn falch iawn o weld bod llawer o'n papurau'n berthnasol i'r ymchwil sy'n ymwneud â Covid-19 a meysydd iechyd eraill.
“Rydym yn ffodus y gallwn elwa o weithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol allanol i ddatblygu ein gwaith ymchwil. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith ymchwil yn helpu i wella prosesau ar gyfer y dyfodol.”
Datgelodd y gwaith ymchwil y canlynol:
- gall defnyddio crynodiad sy'n cynnwys llai na 70 y cant o ethanol fod yn effeithiol yn achos hylifau diheintio, gan leihau swm yr ethanol y mae'n rhaid ei gynhyrchu;
- ceir squalene, a ddefnyddir fel cyffur ategol mewn brechlynnau, fel arfer o afu siarcod ond, oherwydd y swm y mae ei angen ar gyfer brechiadau yn erbyn Covid-19 a heintiau eraill, nid yw cynaeafu siarcod ar raddfa fawr yn gynaliadwy nac yn ddymunol. Fodd bynnag, gellir trin burum i ychwanegu gwerth at gynnyrch bioethanol, gan gynnwys squalene a gynhyrchir o weddillion burum;
- gall mewnanadlu'r asol newydd a hirhoedlog PC945 fod yn ddull o drin asbergilosis, haint anadlol a geir ar y cyd â Covid-19. Gan weithio gyda Pulmocide Ltd, mae'r tîm wedi cadarnhau mecanwaith gweithredu ac effeithiolrwydd PC945 ac mae'r cyffur arfaethedig yn cael ei dreialu'n glinigol ar hyn o bryd;
- Gall burum gynhyrchu'r cyfansoddion rhyngol y mae eu hangen i greu corticosteroidau – y cyffuriau gwrthlidiol hollbwysig sydd wedi helpu i achub bywydau cleifion Covid-19. Defnyddiwyd ensymau i drawsnewid progesteron at ddibenion syntheseiddio corticosteroidau, gan gynnwys decsamethason, yn ddiwydiannol ers y 1950au. Mae tîm y Brifysgol wedi dangos, ar ôl cynhyrchu bioethanol yn y lle cyntaf, y gallai gweddillion y burum gynhyrchu cyfansawdd rhyngol corticosteroid hanfodol. Mae'n anodd cyflawni'r broses hon drwy synthesis cemegol.