Wrth i'r pandemig barhau i gael effaith andwyol ar India, mae academydd o Brifysgol Abertawe'n ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai te gwyrdd esgor ar gyffur i fynd i'r afael â Covid-19.
Gwnaeth Dr Suresh Mohankumar y gwaith ymchwil gyda chydweithwyr yn India yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Fferylliaeth Academi Addysg Uwch ac Ymchwil JSS yn Ooty cyn ymgymryd â'i rôl bresennol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Meddai: “Y fferyllfa hynaf erioed yw'r drysorfa o gyffuriau newydd posib a geir ym myd natur a gwnaethom ofyn a allai unrhyw un o'r cyfansoddion hyn ein helpu yn y frwydr yn erbyn pandemig Covid-19.
“Gwnaethom sgrinio a didoli llyfrgell o gyfansoddion naturiol y gwyddid eisoes eu bod yn gweithredu yn erbyn coronafeirysau eraill, gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol â chymorth deallusrwydd artiffisial.
“Gwnaeth ein canfyddiadau awgrymu y gallai un o gyfansoddion te gwyrdd ymladd yn erbyn y coronafeirws sy'n gyfrifol am Covid-19.”
Mae'r cyfnodolyn ar-lein RSC Advances wedi tynnu sylw at waith yr ymchwilwyr, wrth i olygyddion ac ymchwilwyr ei ddewis i’w gynnwys yn ei gasgliad uchel ei fri o erthyglau poblogaidd.
Pwysleisiodd yr Athro Cyswllt Dr Mohankumar fod y gwaith ymchwil newydd ddechrau a'i fod yn bell o fod yn barod i'w roi ar waith yn glinigol.
“Mae ein model yn rhagfynegi mai'r cyfansoddyn mwyaf gweithredol yw gallocatechin, a geir mewn te gwyrdd ac a allai fod ar gael yn hwylus yn ogystal â bod yn hygyrch ac yn fforddiadwy. Mae angen ymchwilio ymhellach i ddangos a ellir profi ei fod yn glinigol effeithiol ac yn ddiogel at ddibenion atal neu drin Covid-19.
“Dyma gam rhagarweiniol, ond gallai gynnig ffordd o fynd i'r afael â phandemig dinistriol Covid-19.”
Mae Dr Mohankumar wedi gweithio ym maes fferylliaeth o safbwynt addysg, ymchwil a gweinyddu ym mhedwar ban byd ers mwy na 18 mlynedd ac ymunodd yn ddiweddar â rhaglen MPharm newydd Prifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Andrew Morris, Pennaeth Fferylliaeth: “Mae'r gwaith ymchwil hwn yn hynod ddiddorol ac mae'n dangos bod cynhyrchion naturiol yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig cyfansoddion blaenllaw yn y frwydr yn erbyn clefydau heintus. Rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod y gwaith ymchwil cydweithredol rhyngwladol hwn yn parhau ar ôl i Dr Mohankumar ymuno â'r tîm fferylliaeth.”
Ychwanegodd Dr Mohankumar ei fod bellach yn edrych ymlaen at weld sut gellir datblygu'r gwaith: “Nawr, mae angen cynnal astudiaethau cyn-glinigol a chlinigol a byddem yn croesawu cydweithredwyr a phartneriaid posib a fydd yn helpu i fynd â'r gwaith hwn ymhellach.”