Caiff rhaglenni adfer iechyd personol eu llunio ar gyfer cleifion sy'n dioddef o Covid hir fel rhan o brosiect ymchwil newydd ar y cyd ag economegwyr iechyd o Brifysgol Abertawe, sydd newydd sicrhau cyllid gwerth £1.1m drwy lywodraeth y DU.
Bydd y prosiect, sef LISTEN, yn cynllunio ac yn gwerthuso ymyriad hunanreoli ar gyfer pobl sy'n dioddef o Covid hir. Bydd hwn yn debygol o gynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd i weithwyr iechyd proffesiynol.
Bydd ymchwilwyr y prosiect yn dadansoddi pa mor glinigol effeithiol y mae'r ymyriad, ac i ba raddau y mae'n helpu pobl i ymdopi â Covid hir ac adfer eu hiechyd.
Bydd aelodau'r tîm o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn dadansoddi pa mor gost-effeithiol ydyw, er mwyn asesu a yw'n cynnig gwerth da am arian cyhoeddus.
Amcangyfrifwyd bod Covid hir yn effeithio ar o leiaf 10% o'r bobl sy'n cael prawf positif am Covid-19.
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod bron miliwn o bobl yn byw gyda'r anhwylder yn y DU. Mae pobl sy'n dioddef o Covid hir yn wynebu amrywiaeth eang o broblemau parhaus megis blinder ac anawsterau wrth wneud tasgau pob dydd, gan olygu y gall fod yn anodd iddynt ddychwelyd i'w bywyd blaenorol. Yna gall ansicrwydd a diffyg dealltwriaeth ynghylch y diagnosis wneud pethau'n waeth.
Ar hyn o bryd, nid oes dim triniaethau gwirioneddol ar gael, felly mae datblygu ymyriadau effeithiol er mwyn helpu pobl i ymdopi â'r anhwylder a'i oresgyn yn hanfodol ar gyfer y grŵp hwn o gleifion, sy'n cynyddu ond sydd heb gael digon o sylw.
Mae tîm o St George's (Prifysgol Llundain) a Phrifysgol Kingston yn arwain prosiect LISTEN, ac mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan ynddo hefyd. Darparwyd cyllid llywodraeth y DU drwy'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR).
Meddai Dr Berni Sewell, Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe:
“Mae pandemig Covid-19 wedi dangos yn glir fod ein hadnoddau iechyd a gofal yn gyfyngedig iawn. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod pob ymyriad newydd yn gost-effeithiol, yn ogystal â bod yn effeithiol.
Mae cymryd rhan fel economegwyr iechyd yn astudiaeth LISTEN yn gyfle gwych i ategu’r gwaith o ddatblygu ymyriad sy'n gwella canlyniadau a phrofiadau'r grŵp hwn o gleifion sy'n cynyddu'n gyflym, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ac ansawdd gofal yn y dyfodol.”
Meddai'r Athro Fiona Jones o St George's (Prifysgol Llundain) a Phrifysgol Kingston:
“Mae miloedd o bobl yn y wlad hon yn dioddef o effeithiau Covid hir, ac effeithir yn sylweddol o hyd ar fywyd pob dydd llawer o bobl a gafodd eu heintio yn y don gyntaf. Mae angen i bobl gael cyfle i weld ymarferwyr medrus yn eu hardal leol – ac mae ein prosiect yn bwriadu sicrhau hynny.
Ein gobaith yw, ble bynnag rydych yn byw, os ydych yn dioddef o Covid hir, y bydd cymorth hunanreoli personol ar gael i chi, gan eich cysylltu ag ymarferydd adfer iechyd sy'n deall yr anhwylder i'r dim.”