Mae'n ymddangos bod llacio'r cyfyngiadau symud wedi helpu iechyd meddwl llawer o arddegwyr ym Mhrydain, ond mae unigrwydd a gorbryder yn hynod gyffredin o hyd, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Phrifysgol Abertawe.
Mae'r astudiaeth, a lansiwyd yn haf 2020, yn un o'r ychydig rai sy'n holi arddegwyr ifanc sawl gwaith am eu profiadau o'r pandemig.
Mae'r canlyniadau diweddaraf yn deillio o arolwg ar-lein o 2,349 o arddegwyr ym Mhrydain gan YouGov rhwng 24 Mai a 15 Mehefin.
“Rydym yn gweld arwyddion gobeithiol o wytnwch pobl ifanc yn ein data diweddaraf, yn ogystal â thystiolaeth bod iechyd meddwl llawer o arddegwyr yn dioddef o ôl-effeithiau'r pandemig,” meddai Catherine Seymour, Pennaeth Ymchwil y Sefydliad Iechyd Meddwl.
Meddai'r Athro Ann John o Brifysgol Abertawe: “Y dylanwadau mawr ar iechyd meddwl arddegwyr yw byw mewn adfyd economaidd a dioddef o anableddau ac anhwylderau iechyd meddyliol a chorfforol a oedd eisoes yn bodoli. Ac, yn benodol, yr adeg honno ym mywyd arddegwyr hŷn sy'n llawn newidiadau cymdeithasol ac emosiynol cyflym. Mae'n ymddangos bod arddegwyr yn y grwpiau hyn yn llai tebygol o oresgyn effeithiau'r pandemig.
“Gan edrych tua'r dyfodol, mae gwir angen i ni sicrhau nad yw'r anghydraddoldebau hyn yn cael eu hehangu ac na fydd y pandemig yn cael effeithiau dilynol, hirhoedlog arnynt.
“Er mwyn gwneud hyn, mae angen polisïau a mentrau ymarferol arnom sy'n cwmpasu adrannau llywodraethol ac yn ymestyn y tu hwnt i wasanaethau iechyd meddwl – er bod y rhain yn allweddol a bod eu cyllid yn affwysol o annigonol – er mwyn cynnwys mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, rhwydi diogelwch ariannol i deuluoedd a thai fforddiadwy.”
Casglwyd y canlyniadau diweddaraf ar-lein pan oedd pobl ifanc yn ôl yn yr ysgol, roedd y cyfyngiadau'n cael eu llacio ac roedd y brechlynnau'n cael eu cyflwyno.
Mae cyfran yr arddegwyr sy'n dweud bod eu hiechyd meddwl eu hunain yn wael wedi cwympo o 18 y cant mewn arolwg ym mis Mawrth i 14 y cant o'r rhai a gafodd eu holi yn yr arolwg newydd.
Hefyd, er bod pesimistiaeth yn gyffredin, mae'n llai cyffredin. Pan wnaeth yr astudiaeth flaenorol holi arddegwyr am ddyfodol pobl o'u hoedran, dywedodd 65 y cant y byddai'n waeth. Mae hyn wedi cwympo i 57 y cant o'r arddegwyr a holwyd yn yr arolwg diweddaraf.
Mae canlyniadau eraill yn awgrymu bod llai o arddegwyr yn cael problemau sy'n gysylltiedig ag iselder, gan gynnwys problemau o ran cysgu, awydd bwyd, canolbwyntio a theimlo'n wael amdanynt eu hunain.
Ychwanegodd Ms Seymour: “Mae hyn i gyd yn galonogol, ond mae ein canlyniadau hefyd yn dangos bod unigrwydd yn gyffredin, er bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio, a bod y pandemig yn destun pryder o hyd i lawer o arddegwyr. Mae unigrwydd yn arbennig o bwysig, gan ei fod yn awgrymu nad oes digon o berthnasoedd meithringar sy'n helpu arddegwyr i ymdopi â chyfnodau anodd. Mae unigrwydd yn cynyddu'r perygl iddynt.”
Mae gorbryder hefyd yn gyffredin o hyd. Dywedodd 43 y cant o'r rhai a holwyd eu bod yn poeni am gyfnod clo arall, roedd 45 y cant yn poeni y byddai eu teulu neu eu ffrindiau'n mynd yn wael oherwydd Covid-19 ac roedd 32 y cant yn poeni y byddai rhywun agos atynt yn marw.
Mae'r astudiaeth yn cael ei chefnogi gan MQ Mental Health Research, a wnaeth alw ar y llywodraeth yn ddiweddar i fynd ati i hyrwyddo iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn fwy yn ystod y pandemig.
Meddai Lea Milligan, prif weithredwr yr elusen: “Mae'r gwelliannau i les y mae pobl ifanc yn adrodd amdanynt drwy'r arolwg hwn yn gam cyntaf calonogol tuag at adfer iechyd meddwl. Er mwyn sicrhau iechyd cenhedlaeth Covid-19 yn y dyfodol, mae angen gwneud llawer mwy o waith.”