Mae fferyllydd a fagwyd mewn cymuned lle roedd mynediad at gyflenwadau gofal iechyd sylfaenol yn rhywbeth moethus wedi sicrhau ysgoloriaeth i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae fferyllydd a fagwyd mewn cymuned lle roedd mynediad at gyflenwadau gofal iechyd sylfaenol yn rhywbeth moethus wedi sicrhau ysgoloriaeth i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ôl Lovelyn Obiakor, mae'r awydd i helpu i wella iechyd y cyhoedd yn ei chymuned gartref, sef Eziama-Nneato yn nhalaith Abia, wedi ysgogi ei brwdfrydedd dros addysg a'i harwain at gyflwyno cais llwyddiannus am Ysgoloriaeth Eira Francis Davies, a roddir gan y Brifysgol bob blwyddyn.
Mae Lovelyn wrth ei bodd ac mae hi bellach yn edrych ymlaen at ddod i Gymru i astudio am MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
Mae'r ysgoloriaeth yn talu holl ffioedd dysgu un fyfyrwraig ragorol bob blwyddyn academaidd. Fe'i sefydlwyd yn 2012 gan y ddiweddar Eira Francis Davies a'i nod yw helpu menywod o wledydd y gallai eu cefndir economaidd, cymdeithasol a diwylliannol beri iddynt wynebu heriau a rhwystrau wrth wireddu eu potensial.
Meddai Lovelyn: “Gweld plant ifanc yn marw o dwymyn a menywod yn marw wrth roi genedigaeth oedd profiadau mwyaf trawmatig fy mhlentyndod. Roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i mi fynd i'r afael â'r mater, doed a ddelo.
“Gan i mi gael fy magu mewn cymuned lle nad anfonid merched i’r ysgol fel rheol, roedd yn rhaid i mi herio'r drefn i gredu y gallwn astudio fferylliaeth a helpu fy nghymunedau innau a chymunedau anghysbell eraill ryw ddydd.
“Mae'r freuddwyd annhebygol hon i fynd ati i newid profiadau trist fy mhlentyndod wedi fy ysgogi ers i mi fod yn 13 oed.”
O ganlyniad i'w phenderfyniad, mae Lovelyn wedi ennill ysgoloriaeth i astudio fferylliaeth ac mae hi'n gobeithio bod yn ysbrydoliaeth i ferched yn ei chymuned, yn ogystal â rhieni nad oeddent yn credu y dylid anfon eu merched i'r ysgol.
Mae hi'n teimlo y bydd y cwrs meistr yn rhoi hyfforddiant allweddol iddi ar iechyd cyhoeddus y gall hi ei ddefnyddio pan fydd hi'n dychwelyd i Affrica.
Meddai: “Mae'r system gofal iechyd yn Nigeria yn wan. Ni wneir digon i hyrwyddo gofal iechyd ac nid yw'n hawdd cael gafael ar ofal iechyd fforddiadwy o safon.”
Yn ôl UNICEF, mae gan Nigeria y nifer mwyaf o blant heb eu himiwneiddio sy'n dioddef o glefydau y gall brechlynnau eu hatal, sy'n gyfrifol am hyd at 40% o farwolaethau plant.
Meddai: “Yn ogystal, mae diffygion mawr o ran y gwaith ymchwil a'r ystadegau angenrheidiol i lywio polisïau a chynlluniau iechyd.
“Mae atgyfnerthu'r system iechyd a'i gallu yn hanfodol er mwyn creu gwlad iach sy'n gallu gweithio tuag at ddatblygu sectorau eraill a'r economi. Mae'r cwrs meistr yn cynnig dull amlddisgyblaethol, sy'n seiliedig ar ymchwil, o archwilio’r hyn sy’n achosi heriau iechyd byd-eang a helpu i ddod o hyd i atebion.”
Mae Lovelyn bellach yn edrych ymlaen at ddod i Abertawe ym mis Medi a mwynhau amrywiaeth amlddiwylliannol y Brifysgol a'r croeso cynnes a gynigir i fyfyrwyr rhyngwladol.
Ychwanegodd: “Bydd byw ac astudio yn Abertawe hefyd yn rhoi cyfle i mi ddysgu Cymraeg, sydd mor ddiddorol a hudolus y gwnaeth hi helpu i ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i gyflwyno cais i ddod yma!”
Disgrifiodd Lovelyn yr ysgoloriaeth fel cyfle unigryw. Ychwanegodd: “Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno prosiectau a mentrau strategol hirdymor yn Nigeria a fydd yn hyrwyddo gofal iechyd ac addysg gynhwysol o safon, gan gyfrannu at nod ac amcanion cynllun Ysgoloriaeth Eira Francis Davies.”