Drwy gydol mis Gorffennaf, mae creadigaethau FIRE Lab sy'n cyfuno celf a gwyddoniaeth, sef Underwater Realm, yn cael eu harddangos yn y caffi Square Peg yn Abertawe, gan ddynodi man cychwyn helfa codau QR ledled y ddinas.
Mae'r Her Codau QR Haicw Tanddwr yn ffordd ddifyr o gysylltu ag amgylcheddau tanddwr y blaned heb adael tir sych, yn ogystal â bod yn weithgaredd gwych i bobl o bob oedran.
Mae'r her yn gyfres o godau QR sydd, ar ôl iddynt gael eu sganio, yn dangos fideo YouTube byr o ddarlleniad haicw ac yn cynnig cliw a fydd yn helpu cyfranogwyr i symud ymlaen i'r lleoliadau nesaf – gan gynnwys Sgeti, Uplands a chanol dinas Abertawe.
Bydd yr unigolyn cyntaf i gwblhau'r her bob dydd, gan lwyddo i ddychwelyd i'r caffi Square Peg, yn ennill coffi am ddim a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael llyfryn y casgliad cydweithredol haicw tanddwr – yn llawn haicŵau gan feirdd o bedwar ban byd.
Meddai Martha Llewellyn o'r caffi Square Peg: “Rydym yn falch o gynnal yr Her Codau QR Haicw Tanddwr, gan ei bod hi'n ymgorffori sawl peth sy'n bwysig i ni: creadigrwydd, gofalu am yr amgylchedd, a hyrwyddo diddordebau'r gymuned.
“Rwy'n dwlu ar y syniad o newid eich safbwynt ac ymddiddori mewn ffordd arall o siarad am ein cynefinoedd naturiol lleol. Mae defnyddio gweithgareddau creadigol fel barddoniaeth i drafod materion fel llygredd a gorbysgota yn ffordd wych o helpu i feithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth.”
Meddai Stephanie Januchowski-Hartley, PhD, un o gymrodyr Sêr Cymru ac aelod o FIRE Lab Prifysgol Abertawe: “Sut gallwn feithrin cysylltiad â'n hamgylcheddau tanddwr os byddwn yn treulio'r rhan fwyaf o'n hamser ar y tir? Rydym yn gofyn y cwestiwn hwn drwy ein gwaith ymchwil yn y Labordy Ymchwil Ryngddisgyblaethol ac Ymgysylltu o ran Dŵr Croyw (FIRE Lab).
“Mae'r Her Codau QR Haicw Tanddwr yn un dull creadigol rydym yn ei ddefnyddio er mwyn helpu i ateb y cwestiwn hwn, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl Abertawe'n ymuno yn yr hwyl!”