Pan adawodd Robert Yarr yr ysgol uwchradd, roedd yn gweld mynd i brifysgol fel mater o reidrwydd yn unig. Fodd bynnag, gyda chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, mae ef wedi cael astudio wrth feithrin ei frwdfrydedd dros newyddiaduraeth chwaraeon.
Ar ôl llwyddo i sicrhau lle i astudio BA (Anrhydedd) mewn Sbaeneg yn 2016, achubodd Robert ar bob cyfle a oedd ar gael, gan gynnwys lleoliad gwaith gydag iBroadcast drwy'r academi.
Drwy'r lleoliad gwaith hwn, gwnaeth Robert ychwanegu at ei rwydwaith o gysylltiadau a gwella CV a oedd eisoes yn drawiadol.
Meddai Robert: “Gwnaeth iBroadcast helpu i roi hygrededd i mi a'm galluogi i gysylltu â'r bobl gywir, gan sicrhau ymddangosiadau i mi yn y pen draw ar y BBC, Nation Radio ac ymhellach i ffwrdd.
“Dyma un o'r camau cyntaf i ffwrdd o ysgrifennu ar sail amatur, tuag at greu cynnwys amrywiol a fyddai'n cael sylw mwy difrifol.”
Yn fuan wedyn, gwnaeth Guinness PRO14 gysylltu â Robert a threfnu lleoliad profiad gwaith gyda Sportsbeat, ac o ganlyniad i hynny gwnaeth ysgrifennu adroddiadau am gemau cartref i'r Gweilch, yn ogystal â chael cyfle i gwrdd a chyfweld â rhai o gewri rygbi Ewrop.
Meddai Robert: “Drwy'r sylfaen gref hon, gwnes i fagu'r hyder a sicrhau'r proffil i weithio fel cyfieithydd swyddogol y cyfryngau a'r wasg pan wnaeth Maorïaid Seland Newydd ymweld â Chile ar gyfer y gêm fwyaf yn hanes rygbi Chile yn ystod fy mlwyddyn dramor. Yn ogystal, cefais y cyfle i gwrdd â rhai o enwogion y byd rygbi, fel Akira Ioane, ac i fwynhau'r manteision sy'n deillio o weithio gyda'r tîm rheoli!”
Yn fuan, gwnaeth Robert feithrin cyfeillgarwch â dau chwaraewr rygbi o Chile, Pablo Labowitz ac Ian Oterson, sy'n chwarae i Old Grangonians (Hen Fechgyn), gwrthwynebwyr arfaethedig Clwb yr Hen Gristnogion pan gwympodd eu hawyren yn yr Andes ym 1972.
Drwy'r cysylltiadau cyfeillgar newydd hyn, gwnaeth Robert sicrhau cyfweliad ag un o oroeswyr y trychineb enwog hwnnw, sef Gustavo Zerbino, cyn-lywydd Ffederasiwn Rygbi Uruguay.
Mae'r cyfweliad, a gyhoeddwyd yn Chile Today a Rugby World, yn un o lawer o gyfweliadau proffil uchel Robert dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn fwyaf diweddar, gwnaeth Robert gyfweld â Sebastián Cancelliere, asgellwr rhyngwladol Ariannin, ar gyfer ei flog rygbi poblogaidd, The Rugby Scribbler.
Ar ran The Rugby Scribbler, gwnaeth Robert hefyd gyfweld â chapten tîm rygbi Bolifia, Mark Camburn, a chlywed am frwydr Bolifia i gael gafael ar offer rygbi arbenigol.
O ganlyniad i hyn, gwnaeth Robert gydlynu cyfraniad i helpu'r gamp i dyfu a bod yn fwy cynhwysol, gyda Llysgennad Prydain ym Molifia yn cytuno i helpu i gludo'r offer.
Mae Robert hefyd wedi annog ei glwb rygbi lleol i gyfrannu, yn ogystal â helpu i drefnu cyfraniadau gan Gregor Townsend, prif hyfforddwr yr Alban a hyfforddwr ymosodol Llewod Prydain ac Iwerddon, a Siwan Lillicrap, capten tîm menywod Cymru a phennaeth rygbi Prifysgol Abertawe. Os hoffai unrhyw un helpu, mae modd gwneud cyfraniad o hyd.
Ochr yn ochr â'i rôl fel newyddiadurwr llawrydd, mae Robert yn treulio ei amser yn astudio am radd ôl-raddedig mewn Astudiaethau Lladin-Americanaidd ac yn gweithio yn Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yr un adran a wnaeth ei helpu i sicrhau'r lleoliad gwaith allweddol gydag iBroadcast dair blynedd yn ôl.
Meddai Robert: “Ar ôl graddio o Abertawe ac achub ar gyfleoedd niferus drwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe megis iBroadcast ac interniaeth, mae'n braf cwblhau'r cylch a helpu cyn-fyfyrwyr Abertawe i gael yr un buddion. Mae'r academi'n cynnig llawer o gyfleoedd ardderchog, ond mae angen rhoi gwybod i fyfyrwyr a graddedigion amdanynt.”
Er bod ganddo hanes cyflogaeth ardderchog eisoes, mae Robert bob amser yn chwilio am y cyfle cyffrous nesaf.
Meddai Robert: “O ystyried y cyfyngiadau ar fy amser, rwyf wedi llwyddo i ddatblygu rhwydwaith proffesiynol cadarn ym myd y cyfryngau rygbi. Wedi dweud hynny, rwy'n unigolyn brwdfrydig, ac yn y pen draw byddwn wrth fy modd pe bawn i'n sicrhau swydd fawr ym maes darlledu, naill ai ym myd rygbi neu fel gohebydd America Ladin, er bod hynny'n teimlo'n bell i ffwrdd ar hyn o bryd.
“Am y tro, rhaid i mi dorchi llewys a chanolbwyntio ar fy ngwaith presennol a'm PhD.”