Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n dweud ei dweud am ei phrofiadau ei hun o hiliaeth er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru'n lle gwell i fyw ynddo.
Mae Saadia Abubaker, sy'n 19 oed, yn ymgynghorydd cymunedol ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (REAP) newydd Llywodraeth Cymru sydd wrthi'n cael ei lunio ar gyfer Cymru.
Mae hi'n frwd dros ddweud ei dweud am y ffordd y mae'r cynllun newydd yn datblygu, yn ogystal â sicrhau bod cynifer o safbwyntiau amrywiol â phosib yn cael eu hystyried.
Meddai hi: “Rwy'n teimlo bod fy oed a lliw fy nghroen yn fy ngrymuso. Mae'r cyfle hwn wedi bod mor werthfawr wrth roi gwir ymdeimlad o bwrpas i mi.”
Bu hi'n fyfyrwraig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gynt ac mae hi'n dweud mai'r cyfnod clo a llofruddiaeth George Floyd oedd y sbardunau a'i hysgogodd i weithredu.
“Roeddwn i'n gaeth i'm cartref ac am y tro cyntaf erioed roedd gennyf amser rhydd. Roeddwn i am ddod o hyd i ffyrdd o gadw'n brysur.
“I mi, a llawer o bobl eraill, roedd llofruddiaeth George Floyd yn sbardun a wnaeth gynnau tân ynof. Sylweddolais i fod angen gweithredu er mwyn newid pethau.”
Felly, gwnaeth Saadia gyflwyno cais i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil gan gymheiriaid a oedd yn ymchwilio i'r hiliaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol y mae pobl ifanc yn ei hwynebu ym maes addysg.
“Gwnaeth y prosiect hwn bwysleisio ymhellach fod angen newid y ffordd y mae'r gymdeithas yn portreadu ac yn trin pobl o gefndiroedd gwahanol. Erbyn diwedd y prosiect, roedd tân gwyllt yn llosgi ynof a dechreuais i gyfrannu at baneli a gweminarau.”
Yna gwelodd hi'r cyfle i fod yn ymgynghorydd cymunedol ar REAP.
“Mae'n cynnwys rhannu profiadau o anghydraddoldeb hiliol a chyflwyno adborth ar yr hyn y mae angen ei roi ar waith er mwyn cyflawni'r nod o sicrhau bod Cymru'n wlad wrth-hiliol erbyn 2030.
“Fy mhrif bryder oedd na fyddai pobl ifanc fel minnau'n cael eu cynrychioli ac na fyddai eu straeon a'u sylwadau craff yn cael eu clywed. Mae'r gwaith cydweithredol i roi'r cynllun hwn at ei gilydd yn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.”
Ychwanegodd: “Mae astudio cymdeithaseg a seicoleg yn Abertawe eleni wedi bod yn wych gan fod rhai o'r modiwlau wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu mwy am anghydraddoldebau hiliol, gan atgyfnerthu fy ngwybodaeth fel y gallaf ei defnyddio yn fy rôl.”
Diolch i Dr Mike Ward, uwch-ddarlithydd yn y gwyddorau cymdeithasol, cafodd Saadia gyfle hefyd i gyfweld â'r Athro Emmanuel Ogbonna, o Brifysgol Caerdydd, sy'n cyd-gadeirio REAP, ar gyfer ei phodlediad Saadia Speaks.
Meddai hi: “Rwy'n hynod ddiolchgar bod tiwtoriaid fel Dr Ward yn fy nghefnogi gyda'r prosiect hwn.”
Dywedodd Dr Ward fod ymroddiad Saadia i hyrwyddo rhagor o amrywiaeth a chydraddoldeb yn ysbrydoliaeth.
Meddai ef: “Mae egni Saadia a'i brwdfrydedd dros gyfiawnder cymdeithasol yn heintus. Wrth addysgu cymdeithaseg am flynyddoedd lawer, nid wyf erioed wedi bod mor obeithiol y ceir newid ag ydwyf pan fyddaf yn siarad â Saadia.”
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar REAP yn parhau tan 15 Gorffennaf ac nid yw'n rhy hwyr i chi ddweud eich dweud.
Ychwanegodd Saadia: “Hoffem glywed barn rhagor o bobl, felly rwyf wedi creu pecynnau gwybodaeth i'w gwneud yn haws i bobl ifanc fel minnau ymateb i'r ymgynghoriad.”
Darllenwch fwy am y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a mynegwch eich barn