Myfyrwyr yn eistedd tu allan i gaffi ar Gampws y Bae

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 12fed safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2021.

Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf, yn datgelu bod 82 y cant o fyfyrwyr Abertawe yn fodlon ar eu cwrs yn gyffredinol.

Mae'r NSS yn arolwg cynhwysfawr o farn myfyrwyr ledled y DU a gynhelir yn annibynnol ac yn ddienw gan Ipsos-MORI. Gofynnir i fyfyrwyr fynegi barn am feysydd megis addysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, y ffordd y mae eu cwrs wedi'i drefnu a'i reoli, adnoddau dysgu, Llais Myfyrwyr a'u hundeb myfyrwyr.

Mae pob prifysgol yn y DU yn cymryd rhan yn yr NSS, a gwnaeth 332,500 o fyfyrwyr ymateb i'r arolwg eleni.

Ynghyd â chael ei rhestru yn y 12fed safle yn y DU, mae Abertawe yn yr ail safle yng Nghymru am foddhad cyffredinol, ac mae wedi gwella ei safle yn saith o'r naw maes thematig.

O ran Addysgu, mae Abertawe wedi dringo 23 o safleoedd i gyrraedd rhif 21 ar y rhestr gyffredinol, ac mae wedi dringo 10 safle i gyrraedd rhif 18 yn gyffredinol am Lais Myfyrwyr.

Mae Abertawe ar y brig yng Nghymru mewn 33 o feysydd pwnc ac mae hi yn y 10 safle uchaf am foddhad cyffredinol yn 26 o'r 59 o bynciau sy'n berthnasol iddi ledled y DU.

Roedd y pynciau canlynol yn y 10 uchaf:

Archeoleg (1af); Bioleg (amhenodol) (1af); Iaith Saesneg (1af); Pynciau Busnes a Rheoli eraill (1af); Astudiaethau Americanaidd ac Awstralaidd (2il); Daearyddiaeth Ddynol (2il); Technoleg Deunyddiau (2il); Y Gyfraith (3ydd); Astudiaethau'r Cyfryngau (3ydd); Polisi Cymdeithasol (3ydd); Nyrsio Plant (4ydd); Y Clasuron (4ydd); Meddygaeth Gyflenwol ac Amgen (4ydd); Gwyddor Gofal Iechyd (amhenodol) (4ydd); Astudiaethau Cymraeg (4ydd); Sŵoleg (4ydd); Cyfrifiadureg (5ed); Bydwreigiaeth (5ed); Cemeg (6ed); Geneteg (7fed); Gwaith Cymdeithasol (7fed); Hyfforddiant Athrawon (7fed); Gwyddorau Ffisegol a Daearyddol (8fed); Ffiseg (9fed); Gwleidyddiaeth (9fed); Peirianneg Meddalwedd (10fed).

Mae'r anrhydeddau diweddaraf hyn yn dilyn llwyddiant diweddar Abertawe wrth ddringo i'r 440fed safle ar restr QS o brifysgolion gorau'r byd, a chyrraedd ei safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair y Complete University Guide, sef rhif 29.

Meddai'r Athro Martin Stringer, y Dirprwy Is-ganghellor Addysg: “Mae canlyniadau'r NSS eleni yn dyst i waith caled ac ymdrech yr holl staff i ddarparu'r profiad gorau posib i'n myfyrwyr mewn amgylchiadau anodd iawn. Yn benodol, mae'r cynnydd yn y safleoedd ar gyfer Addysgu a Llais Myfyrwyr yn amlygu'r gwaith neilltuol a wnaed i baratoi ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, ymdrechion pawb a fu'n ymwneud â hyfforddi a chefnogi ein gweithgarwch dysgu ac addysgu, cynnwys myfyrwyr ar bob lefel yn ein prosesau penderfynu, a'n hymroddiad i brofiad myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

“Mae'r safleoedd gwell ar gyfer y rhan fwyaf o'r themâu yn yr arolwg yn gyflawniad enfawr i'r Brifysgol gan ystyried yr heriau rydym wedi eu hwynebu a'r cyflymdra a'r hyblygrwydd rydym wedi'u dangos wrth fynd i'r afael â nhw. Mae'r cyflawniadau hyn yn rhywbeth y dylem fod yn eithriadol o falch ohonynt. Mae parhad ein llwyddiant yn yr NSS yn dyst i ymroddiad ac ymrwymiad staff i brofiad myfyrwyr, sydd yn ein helpu i ddarparu addysg o'r ansawdd uchaf, ymchwil sy'n arwain yn fyd-eang, a phrofiad eithriadol i'n myfyrwyr er gwaethaf yr heriau hyn.”

Gweler canlyniadau NSS 2021 yn eu cyfanrwydd.

Rhannu'r stori