Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi i'r swydd Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Interim.
Mae gan Niamh Lamond, a fydd yn gweithio gyda'r brifysgol tan fis Chwefror 2022, brofiad helaeth ym maes addysg uwch, ar ôl gweithio'n fwyaf diweddar fel Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Ulster. Cyn hynny, hi oedd Prif Swyddog Gweithredol gwreiddiol a Chyfarwyddwr Bwrdd Falmouth Exeter Plus, sef menter ar y cyd rhwng Prifysgol Falmouth a Phrifysgol Caerwysg.
Mae Niamh Lamond yn un o gymrodyr Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli ac mae hi hefyd wedi bod yn aelod o bwyllgor cynghori strategol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE) ar arwain, llywodraethu a rheoli. Tan fis Rhagfyr 2020, bu'n cynrychioli Gogledd Iwerddon ar weithgor cenedlaethol AHUA (Association of Heads of University Administration).
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Mae Niamh yn ymrwymedig i gydweithio ac i hyrwyddo diwylliant sy'n canolbwyntio ar staff a myfyrwyr. Rwy'n ei chroesawu i'r brifysgol ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld hi'n gweithio gyda ni dros y misoedd nesaf.”
Meddai Niamh Lamond: “Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ymuno â Phrifysgol Abertawe a'i helpu i gyflawni ei huchelgeisiau a thyfu ar ôl iddi ymateb i heriau Covid-19. Rwy'n frwdfrydig dros weithio gydag aelodau staff a myfyrwyr i gyflwyno'r gwasanaethau gorau posib, ac rwy'n edrych ymlaen at arwain y gwasanaethau proffesiynol yn Abertawe dros y misoedd nesaf.”