Mae prosiect celf y Brifysgol sy'n mynd ati i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng celf a gwyddoniaeth yn rhan o arddangosfa newydd yn Oriel Mission yn Abertawe.
Mae Geiriau Tanddwr I a II yn brosiect cydweithredol a chreadigol sy'n herio cynulleidfaoedd amrywiol i feddwl am afonydd ac amgylcheddau tanddwr a mynegi barn amdanynt.
Cafodd ei greu gan FIRE Lab (Labordy Ymchwil Ryngddisgyblaethol ac Ymgysylltu o ran Dŵr Croyw) Prifysgol Abertawe ar y cyd â'r bardd Asha Sahni a 106 o gyfranogwyr o bedwar ban byd.
Ar ffurf diptych digidol wedi'i ddylunio gan Daphne Ioanna Giannoulatou o FIRE Lab, mae Geiriau Tanddwr I a II yn cynnwys dau fideo annibynnol sy'n rhannu un sgrîn.
Meddai Dr Giannoulatou: “Rydym yn falch iawn bod y fideo wedi cael ei ddewis i'w ddangos. Dyma gyfle unigryw i gysylltu'n fwy â'r gymuned ehangach yn Abertawe, yn y gobaith y bydd gwyddoniaeth a gwaith celf yn ysbrydoli pobl i feddwl yn greadigol.”
Drwy ei rôl yn FIRE Lab yn Adran y Biowyddorau, mae hi'n cynllunio ffyrdd creadigol o ysgogi cynulleidfaoedd amrywiol i ddeall eu cysylltiad ag ecosystemau afonydd a'r hyn y maent yn ei wybod amdanynt, yn ogystal ag optimeiddio sut gellir cyfleu syniadau gwyddonol drwy gyfrwng gwaith celf, ac astudio cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr ac artistiaid.
Mae'r gwaith celf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac ERDF, yn cael ei ddangos ar Y Sgrîn yn Oriel Mission tan ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf.