Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi adroddiad dilynol i’w chynhadledd ‘Gofid neu Gyfle: Y Gymraeg yn y “Normal Newydd”’, a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni.
Daeth dros 120 o gynadleddwyr ynghyd ar-lein i drafod effaith Covid-19 ar yr iaith Gymraeg, a’r effeithiau maent wedi’u profi a’u hadnabod wrth eu gwaith a’u bywydau dydd i ddydd.
Mae’r adroddiad Troi Gofid yn Obaith yn cwmpasu a chofnodi’r testunau a drafodwyd yn y gynhadledd, y canfyddiadau a ddatguddiwyd, a chamau i’w cymryd i’r dyfodol. Yn ogystal, cyflwynir argymhellion ar gyfer llywodraeth newydd Cymru ac awdurdodau lleol, ynghyd â chamau nesaf y gallai cynadleddwyr a chefnogwyr y Gymraeg eu hystyried a’u gweithredu.
Mae’r adroddiad wedi ei rhannu’r bum rhan, gan ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd yn y meysydd canlynol:
- Byd addysg a’r blynyddoedd cynnar
- Tai a mudo
- Polisi cyhoeddus
- Gweithdrefnau yn y gweithle
- Y gymuned
Mewn ymdrech i sicrhau bod y trafodaethau adeiladol a dadlennol a gynhaliwyd yn cael eu clywed ar raddfa ehangach a’u hystyried er mwyn sicrhau newidiadau all warchod yr iaith mewn cyd-destunau megis pandemig a’i effeithiau, mae’r Academi wedi rhyddhau recordiadau o’r holl sesiynau yn ogystal â’r adroddiad.
Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Yn sgil y pandemig, bu raid i’n defnydd o’r Gymraeg a’n gallu i’w defnyddio addasu bron fel petai dros nos. Newidiodd y gofod sgwrsio i fod yn un rhithiol yn hytrach na chymunedol. Daeth ymadroddion neu ystyron newydd i eiriau yn rhan o’n sgwrs bob dydd. Nod y gynhadledd felly oedd rhoi cyfle i sefyllfa'r Gymraeg yn y ‘normal newydd’, gael ei hystyried o ddifri gan dynnu rhanddeiliaid ynghyd i gyd-drafod a rhannu syniadau ar sut y gallwn ni droi gofid yn obaith.
"Rydym yn gwahodd gwleidyddion, llunwyr polisi, swyddogion llywodraeth leol a chymunedol a’r cyhoedd i ystyried yr argymhellion a gyflwynir yn yr adroddiad ac i gymryd camau i weithredu arnynt. Mae yna gyfuniad o argymhellion all gael eu gweithredu dros nos tra bod eraill yn gofyn am ymrwymiad a dycnwch i ddwyn y maen i’r wal, ond nod y cyfan yw sicrhau gwytnwch i’r Gymraeg mewn cyfnodau o argyfwng cymunedol ehangach.”