Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill anrhydedd dwbl oherwydd ei arbenigedd wrth addysgu systemau gwybodaeth.
Mae Yogesh Dwivedi, athro Marchnata Digidol ac Arloesi, newydd gael ei enwi'n enillydd Addysgwr Cyfrifiadura Gorau'r Flwyddyn gan IACIS – ac ef yw'r academydd cyntaf o'r DU i dderbyn y wobr uchel ei bri.
Cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaethau i'w ddisgyblaeth academaidd a chyflwynir y wobr iddo yng nghystadleuaeth flynyddol y corff yn hwyrach eleni.
Meddai'r Athro Dwivedi, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr ymchwil yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol: “Mae'r wobr hon yn siom ar yr ochr orau sy'n destun syndod mawr i mi. Nid oeddwn i byth yn disgwyl y fath beth. Rwy'n teimlo'n ddiolchgar ac yn freintiedig i gael fy ngwobrwyo am fy ngweithgareddau gwahanol, sy'n amrywio o wasanaeth cymunedol i ysgolheictod.
“Mae'r ffaith bod fy ymdrechion wedi cael eu cydnabod gan weithwyr proffesiynol eraill sy'n uchel eu bri yn syndod ac yn fraint, yn enwedig o ystyried y bobl nodedig sydd wedi ennill y wobr hon yn y gorffennol.
“Rwy'n diolch i'r pwyllgor dethol o waelod fy nghalon ac yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ochr yn ochr â'm cydweithwyr.”
Fe'i henwebwyd gan yr Athro Alex Koohang, Deon ac Athro Technoleg Gwybodaeth ym Mhrifysgol Middle Georgia State yn yr Unol Daleithiau, a'i disgrifiodd fel ysgolhaig gwych sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel.
Meddai: “Mae gweithgareddau ysgolheigaidd yr Athro Dwivedi yn adnabyddus iawn i'r gymuned systemau gwybodaeth. Mae'n ymchwilydd ac yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi erthyglau niferus y cyfeiriwyd atynt a golygu sawl cyfnodolyn academaidd adnabyddus, gan gynnwys International Journal of Information Management. Yn wir, mae ef wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at ei faes ac mae'n hollol deilwng o ennill y wobr hon.”
Yn ogystal, mae'r Athro Dwivedi bellach yn cael ei restru ymhlith 30 gwyddonydd cyfrifiadureg ac electroneg gorau'r DU gan Guide2Research. Mae e'n un o ddau wyddonydd yn unig o Brifysgol Abertawe – mae'r Athro Alan Dix, cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadol, yn ymddangos ymhlith y 250 uchaf – ar restr sy'n llawn academyddion o Rydychen, Caergrawnt, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Choleg Imperial Llundain.
Gwnaeth yr Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth, ganu clodydd yr Athro Dwivedi.
Meddai: “Dyma gyflawniad gwych – a hollol haeddiannol. Mae ymroddiad Yogesh i'w waith addysgu ac ymchwil yn ddigyffelyb. Mae ef wedi ennill bri byd-eang fel ysgolhaig rhyngwladol sy'n llywio ei faes ymchwil.
“Rydym yn hynod falch ei fod yn rhan o Ysgol Reolaeth a chymuned Prifysgol Abertawe.”