Ambiwlans: roedd mwy na 600,000 o alwadau 999 brys yn ystod ton gyntaf y pandemig yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19.

Roedd mwy na 600,000 o alwadau 999 brys yn ystod ton gyntaf y pandemig yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19. Anfonwyd ambiwlansys mewn oddeutu 80% o'r achosion a chludwyd 43% o'r cleifion i'r ysbyty, yn ôl arolwg mawr newydd o wasanaethau ambiwlans yn y DU.

Effeithiwyd yn llawer mwy ar rai gwasanaethau nag eraill, gyda bron hanner yr holl alwadau i un gwasanaeth yn ymwneud â Covid-19 pan oedd yn ei anterth.

Roedd y gofal a roddwyd yn amrywio'n fawr yn ôl ardal ddaearyddol, gydag ambiwlansys yn cael eu hanfon mewn ymateb i lai na 60% o alwadau mewn un gwasanaeth, ac yn cael eu hanfon mewn ymateb i 100% o alwadau mewn gwasanaeth arall. Roedd nifer y cleifion a gludwyd i'r ysbyty yn amrywio rhwng 32% a 54% ledled y wlad.

Bydd y canfyddiadau'n helpu arbenigwyr a llunwyr polisïau gwasanaethau ambiwlans i gynllunio am donnau eraill a chlefydau pandemig yn y dyfodol, gan ddangos patrymau’r galw a gwella diogelwch ac effeithiolrwydd ymateb y GIG.

Gwnaed y gwaith ymchwil gan dîm o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Gwnaeth y tîm gynnal arolwg o bob un o'r 13 o wasanaethau ambiwlans yn y DU – ymatebodd 12 ohonynt – gan ofyn iddynt am ddata ar gyfer y 22 wythnos gyntaf rhwng 1 Chwefror, ychydig ar ôl i'r achos cyntaf o Covid-19 yn y DU gael ei gadarnhau, a 27 Mehefin.

Wrth ddadansoddi'r data, daeth y tîm i'r casgliadau canlynol:

Roedd 604,146 o'r galwadau a gafwyd yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19, sef 13.5% o'r holl alwadau 999 yn ystod y cyfnod.
Roedd nifer y galwadau ynghylch achosion posib o Covid-19 yn amrywio'n fawr yn ystod y cyfnod. Cafwyd y cyfanswm mwyaf ledled y DU yn ystod y seithfed wythnos, ond cofnodwyd lefelau is gan bob gwasanaeth ambiwlans erbyn diwedd y cyfnod.
Roedd amrywiadau mawr ledled y wlad ac wrth i amser fynd yn ei flaen, ac roedd cyfraddau uwch o alwadau 999 mewn ardaloedd lle roedd cyfraddau uchel o achosion o Covid-19 a derbyniadau i’r ysbyty.

• Y gyfradd uchaf o alwadau a oedd yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19 oedd 44.5% – a gofnodwyd gan un gwasanaeth ambiwlans mewn un wythnos
• Anfonwyd ambiwlansys mewn ymateb i 79% o'r galwadau, ac aethpwyd â'r claf i'r ysbyty mewn 43% o'r achosion hynny.
• Roedd y gweithdrefnau brysbennu a ddefnyddiwyd i asesu brys achosion – mewn canolfannau galwadau 999 ac ar safleoedd – wedi amrywio'n sylweddol rhwng gwasanaethau ambiwlans ac wrth i amser fynd yn ei flaen.

Yn ogystal â thaflu goleuni ar batrymau’r galw, gall y canfyddiadau gynnig dealltwriaeth i helpu i wella'r broses frysbennu, sy'n hanfodol er mwyn rhoi'r gofal mwyaf addas a gwneud y mwyaf o adnoddau'r GIG.

Mae brysbennu'n broses o asesu pa mor ddifrifol a brys y mae achos. Mae galwadau 999 yn cael eu brysbennu ddwywaith: unwaith yn y ganolfan alwadau, er mwyn penderfynu ar yr ymateb a'r amseru mwyaf addas, yna unwaith eto ar y safle os caiff ambiwlans ei anfon.

Mae'n hanfodol brysbennu'n gywir. Gall penderfyniad anghywir i beidio ag anfon ambiwlans, neu i adael claf gartref, arwain at achos diangen o salwch difrifol neu farwolaeth. Ond mae mynd â chleifion i'r ysbyty'n ddiangen yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, gan wastraffu adnoddau ar draul pobl sy'n fwy difrifol wael, a chynyddu’r risg y bydd pobl yn cael eu heintio'n ddiangen.

Meddai'r Athro Helen Snooks o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, y prif ymchwilydd:

“Mae ein data'n dangos yn glir fod Covid-19 wedi cynyddu llwyth gwaith gwasanaethau ambiwlans y DU yn fawr ar adeg llawn ansicrwydd ac ofn. Mae hyn yn berthnasol i ganolfannau galwadau – gyda phrotocolau newydd ar gyfer brysbennu a chyngor – ar safleoedd ac mewn ysbytai, lle ceir gofynion rheoli heintiau a chyfarpar diogelu personol, a lle gwelir ciw o ambiwlansys yn aml y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod ymateb gwasanaethau ambiwlans yn amrywio'n fawr. Gan fod y gofal a roddir yn amrywio, mae pobl yn cael ymateb gwahanol sy’n dibynnu ar eu cyfeiriad. Dyma destun pryder mawr o ran ansawdd a diogelwch, a danlinellwyd yn ddiweddar mewn adolygiad o wasanaethau ambiwlans.

Nid yw'r pandemig wedi dod i ben. Felly, mae meithrin dealltwriaeth well o batrymau’r galw am wasanaethau ambiwlans brys, a diogelwch ac effeithiolrwydd modelau brysbennu ac ymateb gwahanol, yn hanfodol er mwyn llywio polisïau a diogelu cleifion.”

Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn Journal of the American College of Emergency Physicians.

Arloesi ym maes iechyd - ymchwil Abertawe

 

Rhannu'r stori