Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Scientific Reports wedi datgelu bod algorithm syml ond cadarn yn gallu helpu peirianwyr i ddylunio'n well y deunyddiau cellog a ddefnyddir at ddibenion sy'n amrywio o amddiffyn a biofeddygaeth i adeileddau clyfar a'r sector awyrofod.
Gall y ffordd y bydd deunyddiau cellog yn gweithredu fod yn ansicr, felly gall cyfrifiadau i helpu peirianwyr i broffwydo sut byddant yn adweithio yng nghyd-destun dyluniad penodol, am nifer penodol o lwythi a dan amgylchiadau a chyfyngiadau gwahanol, sicrhau eu bod yn cael eu dylunio'n well a’u bod yn gweithredu'n well o ganlyniad i hynny.
Daeth y cydweithwyr ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Abertawe, Sefydliad Technoleg India yn Delhi a Phrifysgol Brown yn yr Unol Daleithiau i'r casgliad fod cyfrifiadau arbenigol yn gallu helpu peirianwyr i nodi'r mân adeiledd delfrydol ar gyfer deunyddiau cellog a ddefnyddir at amrywiaeth eang o ddibenion, o awyrofod uwch i'r stentiau a ddefnyddir i drin arterïau caeëdig.
Meddai Dr Tanmoy Chatterjee, awdur y gwaith ymchwil:
“Mae'r papur hwn yn deillio o flwyddyn o ymchwil gydweithredol barhaus. Mae'r canlyniadau'n dangos bod ansicrwydd yn y feicroraddfa yn gallu effeithio'n aruthrol ar y ffordd y mae metaddeunyddiau'n gweithredu'n fecanyddol. Gwnaeth ein fformwleiddiad ddefnyddio algorithmau cyfrifiadol sy'n dilyn egwyddorion esblygiadol natur i ddylunio mân adeileddau newydd.”
Mae'r Athro Sondipon Adhikari, un o'r cyd-awduron, yn esbonio:
“Drwy'r dull gweithredu hwn, gwnaethom lwyddo i sicrhau priodoleddau mecanyddol eithafol a oedd yn ymwneud â chymhareb Poisson (metaddeunydd cynyddol) a modwlws elastig. Bydd y gallu i ddefnyddio priodoleddau mecanyddol eithafol drwy ddylunio mân adeileddau delfrydol newydd yn esgor ar bosibiliadau newydd ar gyfer gweithgynhyrchu a defnyddiau.”
Darllenwch y gwaith ymchwil yn Scientific Reports.