Mae amrywiaeth anhygoel pryfed a physgod, sef y grwpiau o greaduriaid di-asgwrn-cefn a fertibratau â'r nifer mwyaf o rywogaethau ym myd anifeiliaid, yn deillio'n rhannol o darddiad gwenwyn, yn ôl astudiaeth newydd o'u hesblygiad.
Dangosodd yr ymchwil fod pysgod a phryfed gwenwynig yn amrywiaethu oddeutu dwywaith yn gyflymach na rhai diwenwyn.
Mae gwenwyn yn ddull effeithiol o wrthsefyll ysglyfaethwyr neu ddal ysglyfaethau, ac efallai ei fod yn galluogi rhywogaethau i achub ar fwy o gyfleoedd yn eu hamgylchedd, gan arwain o bosib at ffurfio rhywogaethau newydd wrth i'w hecoleg amrywiaethu.
- Hyd yn hyn, nodwyd mwy na miliwn o rywogaethau pryfed, sef tri chwarter yr holl rywogaethau di-asgwrn-cefn yn y byd.
- Mae 31,269 o rywogaethau pysgod, sef oddeutu hanner yr holl rywogaethau fertebraidd.
Heddiw, mae oddeutu 10% o fathau o bysgod ac 16% o fathau o bryfed yn cynnwys rhywogaethau gwenwynig – o forgathod duon a chathbysgod i wenyn meirch a mosgitos. Dangosodd yr ymchwil fod gwenwyn wedi esblygu'n annibynnol o leiaf 19 neu 20 o weithiau yn achos pysgod ac o leiaf 28 o weithiau yn achos pryfed yn ystod eu hanes esblygiadol.
Er bod biolegwyr wedi bod yn archwilio'r hyn sy'n ysgogi bioamrywiaeth ers amser maith, nid yw cyfraniad gwenwyn at y grwpiau mwyaf amrywiol – pryfed a physgod – wedi cael ei ystyried yn llawn. Yn hyn o beth y mae'r ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe yn ddefnyddiol.
Gwnaeth y tîm, dan arweiniad Dr Kevin Arbuckle o Adran y Biowyddorau, gynnal y prawf mawr cyntaf o gyfraniad gwenwyn at amrywiaeth rhywogaethau pryfed a physgod. Drwy ddangos bod gwenwyn wedi esblygu sawl gwaith yn ystod hanes esblygiadol pryfed a physgod, a bod cysylltiad rhyngddo a chyfraddau amrywiaethu cyflymach, mae'r ymchwilwyr yn cyflwyno tystiolaeth bod gwenwyn wedi cyfrannu'n ystyrlon at amrywiaeth rhywogaethau yn yr achosion hyn o amrywiaethu ar raddfa fawr.
Meddai Dr Kevin Arbuckle o Brifysgol Abertawe, y prif ymchwilydd:
“Mae ein canlyniadau'n rhoi tystiolaeth bod gwenwyn wedi cyfrannu at greu amrywiaeth pryfed a physgod, sy'n meddu ar y nifer mwyaf o rywogaethau ymysg creaduriaid di-asgwrn-cefn a fertibratau fel ei gilydd.
Nid gwenwyn yw'r unig ffactor sy'n ysgogi amrywiaeth rhywogaethau'r grwpiau hyn o anifeiliaid, ond rydym yn dangos ei fod wedi gwneud cyfraniad pwysig na chafodd ei gydnabod o'r blaen at greu amrywiaeth anhygoel y pryfed a'r pysgod sy'n bodoli heddiw.”
Mae patrwm amseru tarddiad pysgod gwenwynig yn rhoi awgrymiadau pryfoclyd ynghylch yr hyn a oedd yn gyfrifol am ysgogi esblygiad eu gwenwyn. Yn wahanol i bryfed, sydd wedi esblygu gwenwyn yn weddol gyson drwy gydol eu hanes, roedd gwenwyn pysgod gan amlaf yn tarddu o'r cyfnod Cretasig hwyr a'r oes Ëosen.
Esboniodd Dr Arbuckle:
“Gwnaeth y mosasoriaid – sef y behemothiaid dyfrol a ddaeth i enwogrwydd drwy'r gyfres Jurassic World – darddu o'r cyfnod Cretasig hwyr ac roedd eu hamrywiaeth yn ei hanterth ar adeg pan oedd grwpiau eraill o ysglyfaethwyr morol mawr yn dirywio.
Yn yr un modd, gwnaeth morfilod darddu o'r oes Ëosen ac roedd eu hamrywiaeth yn ei hanterth pan oedd y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr morol mawr eraill wedi marw ar yr un pryd â'r dinosoriaid ar ddiwedd y cyfnod Cretasig.
Y gred yw y bu'r morfilod cynnar a'r mosasoriaid yn ysglyfaethwyr gweithredol a oedd yn symud mewn modd tebyg. Felly, rydym yn awgrymu'n ofalus fod cysylltiad rhwng tarddiad y rhan fwyaf o fathau o wenwyn pysgod a phwysau ysglyfaethu tebyg, gan y mosasoriaid yn y cyfnod Cretasig hwyr, a'r morfilod cynnar yn yr oes Ëosen.”
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn BMC Ecology and Evolution