Mae myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf sydd hefyd yn gweithio fel cymedrolwr gemau llawrydd wedi ennill cyllid gwerth £1,000 drwy gynllun gweithwyr llawrydd Santander yn y DU er mwyn helpu i gefnogi ei waith.
Mae gan Brifysgol Abertawe bartneriaeth â Santander, fel rhan o'r rhaglen Prifysgolion Santander. Mae hon yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o Abertawe gael gafael ar gyllid at ddibenion addysg, cyflogadwyedd a mentergarwch.
Mae Oliver Thomas, sy'n astudio peirianneg fecanyddol, yn cymedroli Brawlhalla, gêm ymladd 2D Esporta, yn llawrydd. Dechreuodd chwarae'r gêm oddeutu tair blynedd yn ôl, gan ymuno â chymuned o chwaraewyr eraill a threfnu cystadlaethau. Gwnaeth ei gystadleuaeth gyntaf ddenu cyfanswm o 10 chwaraewr ond ers hynny mae nifer ei ddilynwyr wedi cynyddu ac mae ef bellach yn gyfrifol am gymuned o 500 o chwaraewyr. Mae ef hefyd yn cymedroli cystadlaethau swyddogol sy'n denu 8,000 o chwaraewyr.
Cyflwynodd Oliver gais i gynllun gweithwyr llawrydd Santander yn y DU ar ôl i Dîm Mentergarwch Prifysgol Abertawe ei hysbysu amdano.
Gwnaeth y cynllun Survive and Revive i weithwyr llawrydd wahodd myfyrwyr neu raddedigion diweddar i gyflwyno cais am gyllid gwerth hyd at £1,000 i helpu busnesau bach a chanolig, sef unrhyw beth a fyddai'n cael ei ystyried yn gomisiwn llawrydd nodweddiadol ar gyfer cleient busnes.
Bydd Oliver yn defnyddio'r cyllid gwerth £1,000 gan Santander i ddatblygu ei fusnes wrth iddo dyfu.
Meddai Oliver Thomas:
“Roedd fy mhrofiad o'r broses ymgeisio yn dda iawn ... bydd y rhaglen bellach yn rhoi cyfle i mi wella fy nhrefniadau presennol at ddibenion ansawdd bywyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Tîm Mentergarwch am roi gwybod i mi am y rhaglen hon ac i Santander am roi'r arian i mi.”
Meddai Kelly Jordan, uwch-swyddog mentergarwch Prifysgol Abertawe:
“Rydym yn hynod falch o fod yn un o brifysgolion Santander a dyma brawf ardderchog o'r ffordd y mae'r berthynas gydweithredol rhwng Abertawe a Santander yn helpu i ddatblygu busnesau ein myfyrwyr ac i sefydlu rhai newydd.”