Mae gardd gymunedol a grëwyd drwy gymorth biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi blodeuo i fod yn atyniad mawr i fywyd gwyllt.
Drwy Brosiect Glöynnod Byw'r Crwys (Three Crosses Butterfly Project), cafodd gwirfoddolwyr gyfle i weithio gyda'i gilydd y llynedd er mwyn helpu i atal dirywiad natur drwy greu gardd yng nghanolfan gymunedol y pentref.
Dan arweiniad yr athro cyswllt Hazel Nichols, o'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, mae'r prosiect wedi cael ei ganmol am fod yn llwyddiant mawr ac mae'r tîm bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu'r ardal yn fwy byth.
Meddai Dr Nichols: “Mae'r blodau gwyllt sydd wedi bod yma'n cynnwys blodau Mai, gwlydd Mair, meillion, corn glas, gleision yr ŷd, clafrllys, cennin Pedr, blodau'r gog, britheg a milddail.
“Rydym yn bwriadu ychwanegu gwelliannau yn y dyfodol. Byddwn wrth fy modd yn creu nodweddion ychwanegol, gan gynnwys llwybr drwy'r ddôl a rhagor o gynefinoedd bywyd gwyllt megis blychau nythu a blychau ar gyfer ystlumod.”
Nod y prosiect i ddechrau oedd creu lloches i fywyd gwyllt a gardd gymunedol ar dir nad oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghanol y pentref.
Cyflwynodd Cyngor Cymuned y Crwys gais llwyddiannus am becyn glöynnod byw i raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru'n Daclus, a oedd yn cynnwys 10 sach o bridd neu gompost, detholiad o blanhigion brodorol, offer, gwely codi hir a dellt. Darparodd Coed Cadw becyn o goed brodorol a wnaeth gyfoethogi'r cwbl.
Dywedodd yr uwch-ddarlithydd biowyddorau Kevin Arbuckle fod amrywiaeth y bywyd gwyllt sydd bellach yn cael ei ddenu i'r ardd yn anhygoel.
Meddai: “O'r blodau gwyllt hunanhadog i bryfed a chreaduriaid eraill, mae wedi bod yn bleser gweld y defnydd gan y fioamrywiaeth leol.
“Gan fod y sylfaen yn ei lle bellach, rydym yn awyddus i fonitro'r fioamrywiaeth yn fwy ffurfiol i gael dealltwriaeth dda o'r bywyd gwyllt sy'n defnyddio'r ardd mewn gwirionedd.
“Mae'r Cyngor Cymuned wedi bod yn gefnogol iawn, gan roi caniatâd i ychwanegu matiau sy'n arolygu ymlusgiaid at rannau disylw o'r ardd. Mae'r rhain eisoes yn cael eu defnyddio gan slorymod sy'n ffynnu mewn gwair hir – drwy greu'r ddôl hon, maent wedi cael y cynefin y mae ei angen arnynt.”
Meddai Ian Donaldson, clerc Cyngor Cymuned y Crwys: “Bu llawer o flodau gwyllt brodorol yn yr ardd ers i ni benderfynu peidio â thocio'r lawntiau yn yr un modd ag y gwnaethom yn ystod hafau blaenorol. Mae'r planhigion a'r coed brodorol wedi ffynnu ac mae golwg gryf arnynt. Mae'r gwely codi hir wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda llawer o flodau hyfryd. Fel cyngor, rydym yn benderfynol o barhau i ofalu am y caffaeliad hwn i'r gymuned! “
Mae'r nifer mawr o flodau gwyllt yn yr ardd wedi denu peillwyr megis gwyfynod sydd yn eu tro'n ffynhonnell bwyd i ystlumod.
Ychwanegodd Dr Arbuckle: “Mae teithiau ad hoc i chwilio am ystlumod wedi datgelu bod o leiaf dair rhywogaeth yma eisoes, gan ddangos bod mamaliaid hefyd yn defnyddio'r ardal.
“Ymhen amser, rydym yn gobeithio ymestyn y gwaith monitro hwn, er enghraifft drwy ddenu gwyfynod, a bydd yn ddiddorol deall i ba raddau y mae bywyd gwyllt lleol yn elwa o'r ardd.
“Gobeithio y byddwn hefyd yn gallu defnyddio'r safle ar gyfer prosiectau allgymorth sy'n ymwneud â bywyd gwyllt hefyd yn sgil llacio cyfyngiadau Covid-19.”