Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru dros dair blynedd a chanfu'r canlynol:
- Mae gan un o bob pump o bobl ifanc 16 – 22 oed yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu;
- Mae dynion a menywod yn y grŵp oedran hwn yr un mor debygol o fod yn ofalwyr ifanc;
- Ar y cyfan, mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg amser llawn yn is ymhlith gofalwyr ifanc (45 y cant ymhlith gofalwyr, o’i gymharu â 54 y cant ymhlith y rhai nad ydynt yn ofalwyr), ac mae’r gwahaniaeth hwn yn fwy yn y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig.
Un canfyddiad newydd yn yr astudiaeth hon yw'r dystiolaeth newydd i awgrymu bod y gwahaniaeth hwn yn y grwpiau oedran hŷn (19 i 22 oed) yn bennaf, lle mae'r gyfran mewn addysg drydyddol amser llawn 10 y cant yn llai ymhlith gofalwyr. Mae’r cyfranogiad isaf ymhlith y rhai â chyfrifoldebau gofalu sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae dim ond 19 y cant sy'n parhau mewn addysg drydyddol amser llawn.
Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r astudiaeth hon yn rhoi tystiolaeth feintiol werthfawr ar effaith negyddol cyfrifoldebau gofalu ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg, a sut y mae hyn yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Yn ddiddorol, roedd un o’r gwahaniaethau mwyaf ymhlith y rhai 19-22 oed, beth bynnag oedd eu lefelau amddifadedd sylfaenol, ac mae hyn yn tynnu sylw at yr angen i gefnogi pobl ifanc ar draws sectorau addysg.
Mae addysg yn allweddol i lwyddiant a chyfleoedd bywyd pobl ifanc yn y dyfodol. Mae dulliau fel nodi gofalwyr ifanc, galluogi cymorth cynnar lle mae ei angen a darparu mwy o gymorth mewn lleoliadau addysgol, yn cynnwys y potensial i alluogi pobl ifanc i aros a ffynnu mewn addysg, tra’n parhau i gyflawni eu cyfrifoldebau gofalu.”
Meddai Fangzhou Huang, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: “Mewn astudiaethau eraill, myfyriodd gofalwyr ifanc ar y ffaith bod eu dewisiadau addysgol yn cael eu cyfyngu gan gyfrifoldebau gofalu. Dangosodd y dystiolaeth gyfranogiad is o lawer mewn addysg drydyddol ymhlith gofalwyr ifanc. Dylai lleoliadau addysgol, mewn partneriaeth ar draws sectorau, roi cymorth cymdeithasol ac academaidd i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc a chodi eu dyheadau addysgol i gyflawni eu potensial mewn addysg.”
Meddai Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: “Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw yn gryf sy'n gwneud cyfraniad defnyddiol at ein dealltwriaeth o'r rhyngberthynas rhwng gofalwyr ifanc, tlodi ac addysg.
Mae'r canfyddiadau yn y ffeithlun hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai bylchau gwybodaeth allweddol yn ein dealltwriaeth o ymgysylltu addysgol gofalwyr ifanc. Mae'r ffeithlun yn rhoi tystiolaeth gref y gellir gwneud mwy ac y dylid gwneud mwy i sicrhau bod yr holl ofalwyr ifanc yn cael y cymorth cywir i’w galluogi i gymryd rhan mewn addysg.
Ers amser maith, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'n partneriaid rhwydwaith wedi disgrifio’r cysylltiad rhwng gofalu a pheidio â bod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Gobeithiwn y bydd y dystiolaeth amserol hon yn helpu i lunio camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar addysg i ofalwyr ifanc yng Nghynllun Cyflawni Strategaeth Gofalwyr Llywodraeth Cymru a gyhoeddir yn fuan."
Mae ‘Cau’r bwlch ymgysylltu addysgol i ofalwyr ifanc’ yn astudiaeth ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, a gyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.