Mae menter gan Brifysgol Abertawe sy'n ymrwymedig i greu gweithwyr meddygol proffesiynol y genhedlaeth nesaf yng Nghymru wedi cael hwb mawr gan Lywodraeth Cymru.
Rhyddhawyd £700,000 i greu canolfan addysg feddygol newydd yn Aberystwyth, gerllaw un o feddygfeydd y dref. Bydd myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n defnyddio'r cyfleuster, gan roi cyfle iddynt ddysgu y tu allan i'r ysbyty.
Y gobaith yw y bydd lleoliad y ganolfan yn helpu i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygaeth sy'n cael eu recriwtio o ardaloedd gwledig, gan arwain at gynnydd yn nifer yr ymarferwyr meddygol sy'n cael eu hyfforddi'n wledig, yn ogystal â nifer y meddygon teulu sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.
Bydd y cyfleuster newydd hefyd yn galluogi meddygon teulu presennol i ymestyn eu portffolio academaidd, gan eu hannog i barhau i weithio.
Dywedodd Dr Heidi Phillips, Athro Cyswllt Gofal Sylfaenol, fod y prosiect yn ychwanegiad newydd cyffrous at lwybr presennol Academi Gofal Sylfaenol yr Ysgol Feddygaeth.
Meddai: “Yn y DU, ceir 90% o weithgarwch y GIG ym maes gofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae cwricwla meddygaeth i israddedigion yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr meddygaeth i arbenigeddau meddygol yn yr ysbyty.
“Ar ben hynny, mae dwy ysgol feddygaeth Cymru yn y de. Nid yw hyn yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth yng ngweddill Cymru.”
Bydd y ganolfan newydd, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, yn cynnwys mannau addysgu ac astudio preifat a chymunedol, ystafell efelychu, labordy sgiliau clinigol a chyfleusterau cymunedol.
Bydd myfyrwyr yn gallu dysgu am y ffyrdd y mae pobl yn dangos problemau iechyd mewn modd diwahaniaeth, hanfodion rhoi diagnosis, rhesymu clinigol a meddygaeth sy'n canolbwyntio ar y claf, a hynny o safbwynt gofal sylfaenol.
Mae'r fenter yn cydnabod iechyd a lles yr unigolyn cyfan, gan roi'r claf, yn hytrach na'r clefyd, wrth wraidd yr hyn a ddysgir. Dywedodd Dr Phillips y bydd hyn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gymwys, yn hyderus ac yn rhoi pwyslais ar y gymuned.
Ychwanegodd: “Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn creu canolfan ar gyfer addysg feddygol mewn cymunedau gwledig, drwy greu amgylchedd dysgu ac addysgu modern.
“I ddechrau, fe'i defnyddir ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol, ond bydd ei gweledigaeth yn ehangach na hynny. Bydd ei chwmpas yn y dyfodol yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys myfyrwyr meddygaeth, myfyrwyr fferylliaeth, meddygon sy'n dilyn y flwyddyn sylfaen a meddygon teulu dan hyfforddiant, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig eraill, gan ganolbwyntio ar weithio rhyngbroffesiynol.”
Mae'r cyllid yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r safle yn ogystal â'r gweithgareddau addysgol y mae'r model yn seiliedig arnynt.
Meddai'r Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru i roi'r fenter gydweithredol bwysig hon ar waith.
“Yn ein barn ni, dyma gyfle gwerthfawr i gynnwys myfyrwyr meddygaeth mewn gwasanaethau iechyd lleol – gan gyfrannu at y gwasanaethau hynny, rhoi profiad trylwyr i'r myfyrwyr a bwydo'r economi leol. Rydym yn edrych ymlaen at weld buddion i'n hardal a'r tu hwnt o ganlyniad i'r prosiect hwn.”
Bu model yr Academi Gofal Sylfaenol yn destun cynllun prawf yn Sir Benfro yn 2019-20 wrth i dri myfyriwr dreulio eu trydedd flwyddyn mewn meddygfa yn hytrach nag yn yr ysbyty. Cofrestrodd 13 o fyfyrwyr yn yr Academi Gofal Sylfaenol yn ystod 2020-2021, ac mae'r cysyniad hwn bellach yn cael ei gyflwyno ledled de-orllewin a chanolbarth Cymru, gyda myfyrwyr yn Sir Benfro, Sir Gâr, Ceredigion a Phowys.
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor Cyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd Prifysgol Abertawe: “Nod llwybr yr Academi Gofal Sylfaenol yw cynnig profiad dysgu o'r radd flaenaf i'n myfyrwyr. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o bwysigrwydd a natur fuddiol gofal sylfaenol, yn ogystal â'u hannog i ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.”
Meddai Dr Siôn James, meddyg teulu yn Nhregaron a Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma newyddion calonogol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'n cymunedau lleol. Gall gyrfa ym maes gofal sylfaenol mewn lleoliadau gwledig fod yn destun boddhad mawr. Gall gwella'r amgylchedd dysgu ac addysgu yn ein hardal ein helpu i ddenu a chadw'r staff clinigol gorau ar gyfer ein poblogaeth.”